Ac fel yr oedd dyddiau Noa, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn. Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau o flaen y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noa i mewn i’r arch, ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw a’u cymryd hwy oll ymaith, felly hefyd y bydd dyfodiad Mab y dyn.