Mathew 23

23
Gwaeau ar yr Ysgrifenyddion a’r Phariseaid
1Yna y llefarodd yr Iesu wrth y torfeydd a’i ddisgyblion, 2gan ddywedyd: ‘Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid. 3Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch, eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch; canys dywedant, ac nis gwnânt. 4Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion ac anodd eu dwyn, ac yn eu gosod ar ysgwyddau dynion; ond nid ewyllysiant eu syflyd hwy ag un o’u bysedd.
5‘Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion. Y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwisgoedd yn helaeth. 6A charu y maent y lle uchaf mewn gwleddoedd a’r prif gadeiriau yn y synagogau, 7a chyfarch yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, “Rabbi, Rabbi.”
8‘Eithr na’ch galwer chwi “Rabbi”; canys un yw eich Athro chwi, sef Crist, a chwithau oll brodyr ydych. 9Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaear; canys un Tad sydd i chwi, yr hwn sydd yn y nefoedd. 10Ac na’ch galwer yn athrawon; canys un yw eich Athro chwi, sef Crist. 11A’r mwyaf ohonoch a fydd yn was i chwi. 12A phwy bynnag a’i dyrchafo ei hun a ostyngir, a phwy bynnag a’i gostyngo ei hun a ddyrchefir.
13‘Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! Canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion; canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn.
14‘Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! Canys yr ydych yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddïo. Am hynny y derbyniwch farn fwy.
15‘Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! Canys amgylchu yr ydych y môr a’r tir i wneuthur un proselyt, ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fab uffern, yn ddau mwy na chwi eich hunain.
16‘Gwae chwi, dywyswyr deillion, y rhai ydych yn dywedyd, “Pwy bynnag a dwng i’r deml, nid yw hynny ddim, ond pwy bynnag a dwng i aur y deml, y mae efe yn rhwym i’w lw.” 17Ffyliaid a deillion! Canys pa un sydd fwyaf, yr aur ai y deml sydd yn sancteiddio’r aur? 18Ac yna, “Pwy bynnag a dwng i’r allor, nid yw hynny ddim, ond pwy bynnag a dyngo i’r rhodd sydd arni, y mae efe yn rhwym i’w lw.” 19Ffyliaid a deillion! Canys pa un fwyaf, y rhodd ai’r allor sydd yn sancteiddio y rhodd? 20Pwy bynnag gan hynny a dwng i’r allor, sydd yn tyngu iddi ac i’r hyn oll sydd arni. 21A phwy bynnag a dwng i’r deml, sydd yn tyngu iddi ac i’r hwn sydd yn preswylio ynddi. 22A’r hwn a dwng i’r nef, sydd yn tyngu i orseddfainc Duw ac i’r hwn sydd yn eistedd arni.
23‘Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! Canys yr ydych yn degymu’r mintys a’r anis a’r cwmin, ond a adawsoch heibio y pethau trymach o’r gyfraith, cyfiawnder a thrugaredd a ffyddlondeb. Y pethau hyn y dylasech eu gwneuthur, a heb adael heibio’r lleill. 24Tywyswyr deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn ac yn llyncu camel.
25‘Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! Canys yr ydych yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl, ond o’r tu mewn y maent yn llawn o drachwant ac anghyfiawnder. 26Ti Pharisead dall, glanha yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i’r cwpan a’r ddysgl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt.
27‘Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! Canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn deg oddi allan, ond oddi mewn sydd yn llawn o esgyrn y meirw a phob aflendid. 28Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith ac anghyfraith.
29‘Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! Canys yr ydych yn adeiladu beddau’r proffwydi, ac yn addurno beddfeini’r rhai cyfiawn. 30Ac yr ydych yn dywedyd, “Pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfranogion â hwynt yng ngwaed y proffwydi.” 31Felly yr ydych yn tystiolaethu amdanoch eich hunain, eich bod yn blant i’r rhai a laddasant y proffwydi. 32Llenwch chwithau hefyd fesur eich tadau.
33‘O seirff, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddianc rhag barn uffern? 34Am hynny, wele, yr ydwyf yn anfon atoch broffwydi a doethion ac ysgrifenyddion; a rhai ohonynt a leddwch ac a groeshoeliwch, a rhai ohonynt a fflangellwch yn eich synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref. 35Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn a ollyngwyd ar y ddaear, o waed Abel gyfiawn hyd waed Sechareia fab Baracheia, yr hwn a laddasoch rhwng y cysegr a’r allor. 36Yn wir meddaf i chwi, daw hyn oll ar y genhedlaeth hon.
Galarnad dros Jerwsalem
37‘Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi ac yn llabyddio’r rhai a ddanfonir atat, pa sawl gwaith y mynnais gasglu dy blant ynghyd, megis y casgl iâr ei chywion dan ei hadenydd, ond nis mynnech! 38Wele, yr ydys yn gadael eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. 39Canys meddaf i chwi, ni’m gwelwch ar ôl hyn, hyd oni ddywedoch, “Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.”’#Salm 118:26

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 23: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക