Mathew 22
22
Dameg y Wledd Briodas
1A’r Iesu a atebodd ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd: 2‘Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth wledd briodas i’w fab, 3ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid i’r briodas; ond ni fynnent hwy ddyfod.
4‘Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, “Dywedwch wrth y rhai a wahoddwyd, ‘Wele, paratoais fy nghinio; fy ychen a’m pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod. Deuwch i’r briodas.”’ 5A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i’w faes ac arall i’w fasnach. 6A’r lleill a ddaliasant ei weision ef, ac a’u hamharchasant, ac a’u lladdasant. 7A phan glywodd y brenin, efe a lidiodd, ac a ddanfonodd ei luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a losgodd eu dinas hwynt.
8‘Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, “Yn wir y wledd briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. 9Ewch gan hynny i’r croesffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas.” 10A’r gweision hynny a aethant allan i’r priffyrdd, ac a gasglasant ynghyd gynifer oll ag a gawsant, drwg a da. A llanwyd y briodas o wahoddedigion.
11‘A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddyn heb wisg briodas amdano. 12Ac efe a ddywedodd wrtho, “Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn yma, heb fod gennyt wisg briodas?” Ac yntau a aeth yn fud. 13Yna y dywedodd y brenin wrth y gwasanaethyddion, “Rhwymwch ei draed a’i ddwylo a chymerwch ef ymaith a theflwch i’r tywyllwch eithaf; yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.” 14Canys llawer sydd wedi eu galw, ond ychydig wedi eu dewis.’
Talu Trethi i Gesar
15Yna yr aeth y Phariseaid ac a gymerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. 16A hwy a ddanfonasant ato eu disgyblion ynghyd â’r Herodianiaid, gan ddywedyd, ‘Athro, ni a wyddom dy fod yn eirwir ac yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal am farn neb; oblegid nid wyt ti yn edrych ar wyneb dynion. 17Dywed i ni gan hynny, beth yr wyt ti yn ei dybied? Ai cyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?’
18Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, ‘Paham yr ydych yn fy mhrofi i, chwi ragrithwyr? 19Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.’ A hwy a ddygasant ato geiniog. 20Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Eiddo pwy yw’r ddelw hon a’r argraff?’
21Dywedasant wrtho, ‘Eiddo Cesar.’ Yna y dywedodd wrthynt, ‘Telwch felly yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw.’ 22A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a’i adael ef a myned ymaith.
Holi am yr Atgyfodiad
23Y dydd hwnnw y daeth ato y Sadwceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes atgyfodiad, ac a ofynasant iddo, 24gan ddywedyd: ‘Athro, dywedodd Moses, os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded blant i’w frawd. 25Ac yr oedd gyda ni saith o frodyr. A’r cyntaf a briododd wraig, ac a fu farw; ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i’w frawd. 26Felly hefyd yr ail a’r trydydd, hyd y seithfed. 27Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd. 28Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o’r saith fydd hi? Canys hwynt‐hwy oll a’i cawsant hi.’
29A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr Ysgrythurau na gallu Duw. 30Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica nac yn gwra, eithr y maent fel angylion Duw yn y nef. 31Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd, 32“Myfi yw Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob”? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw.’#Exodus 3:6, 15 33A phan glywodd y torfeydd hynny, hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef.
Y Gorchymyn Mawr
34Ac wedi clywed o’r Phariseaid ddarfod i’r Iesu ostegu’r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i’r un lle. 35Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei brofi, a dywedyd, 36‘Athro, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith?’
37A’r Iesu a ddywedodd wrtho, ‘“Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl.”#Deuteronomium 6:5; Lefiticus 19:18 38Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr. 39A’r ail sydd gyffelyb iddo, “Câr dy gymydog fel ti dy hun.” 40Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r proffwydi yn sefyll.’
Mab Dafydd
41Ac wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt, 42gan ddywedyd, ‘Beth a dybygwch chwi am Grist? Mab i byw ydyw?’ Dywedasant wrtho, ‘Mab Dafydd.’
43Dywedodd yntau wrthynt, ‘Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr Ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd:
44“Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd,
‘Eistedd ar fy neheulaw,
hyd oni osodwyf dy elynion
yn droedfainc i’th draed di’ ”?#Salm 110:1
45Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?’ 46Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ei holi ef mwyach.
നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:
Mathew 22: BWMTND
ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക
പങ്ക് വെക്കു
പകർത്തുക
നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക