Ioan 2

2
Y Briodas yng Nghana
1A’r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea; a mam yr Iesu oedd yno. 2A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas.
3A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, ‘Nid oes ganddynt mo’r gwin.’ 4Iesu a ddywedodd wrthi, ‘Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? Ni ddaeth fy awr i eto.’ 5Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, ‘Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.’
6Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri o faen wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ryw ddeunaw i saith galwyn ar hugain. 7Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Llenwch y dyfrlestri o ddwfr.’ A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl. 8Ac efe a ddywedodd wrthynt, ‘Tynnwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd.’ A hwy a ddygasant.
9A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a dynasent y dwfr, a wyddent), llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab, 10ac a ddywedodd wrtho, ‘Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf, ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth. Tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.’ 11Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a amlygodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.
12Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe a’i fam a’i frodyr a’i ddisgyblion; ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.
Glanhau’r Deml
13A Phasg yr Iddewon oedd yn agos; a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem. 14Ac efe a gafodd yn y deml y rhai a oedd yn gwerthu ychen a defaid a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd. 15Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen, ac a dywalltodd allan arian y newidwyr ac a ddymchwelodd y byrddau. 16Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, ‘Dygwch y rhai hyn oddi yma. Na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad.’ 17A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, ‘Sêl dy dŷ di a’m hysa i.’#Salm 69:9
18Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, ‘Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn?’ 19Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, ‘Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi.’
20Yna yr Iddewon a ddywedasant, ‘Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon, ac a gyfodi di hi mewn tridiau?’ 21Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff. 22Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn; a hwy a gredasant yr Ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.
23Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y Pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe. 24Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll, 25ac nad oedd raid i neb dystiolaethu iddo am ddyn, oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Ioan 2: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക