Ioan 1

1
Y Gair Tragwyddol
1Yn y dechreuad yr oedd y Gair, a’r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. 2Hwn oedd yn y dechreuad gyda Duw. 3Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth, a hebddo ef ni wnaethpwyd dim a wnaethpwyd. 4Ynddo ef yr oedd bywyd, a’r bywyd oedd oleuni dynion. 5A’r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch, a’r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
6Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a’i enw Ioan. 7Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. 8Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni. 9Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn sydd yn dyfod i’r byd.
10Yn y byd yr oedd efe, a’r byd a wnaethpwyd trwyddo ef, a’r byd nid adnabu ef. 11At ei eiddo ei hun y daeth, a’r eiddo ei hun nis derbyniasant ef. 12Ond cynifer ag a’i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt hawl i ddyfod yn feibion i Dduw, sef i’r sawl a gredant yn ei enw ef: 13y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.
Y Gair yn Dod yn Gnawd
14A’r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, a ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig‐anedig oddi wrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd.
15Ioan a dystiolaethodd amdano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, ‘Hwn oedd yr un y dywedais amdano, “Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i a aeth o’m blaen i, canys yr oedd efe o’m blaen i.”’ 16Ac o’i gyflawnder ef y derbyniasom ni oll, a gras ar ben gras. 17Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. 18Ni welodd neb Dduw erioed. Yr unig‐anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef.
Tystiolaeth Ioan Fedyddiwr
19A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Jerwsalem offeiriaid a Lefiaid i ofyn iddo, ‘Pwy wyt ti?’ 20Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd; a chyffesodd, ‘Nid myfi yw’r Crist.’ 21A hwy a ofynasant iddo, ‘Beth ynteu? Ai Elias wyt ti?’ Yntau a ddywedodd, ‘Nage.’ Ai’r Proffwyd wyt ti?’ Ac efe a atebodd, ‘Nage.’
22Yna y dywedasant wrtho, ‘Pwy wyt ti, fel y rhoddom ateb i’r rhai a’n danfonodd? Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdanat dy hun?’ 23Eb efe, ‘Myfi yw
“llef un yn gweiddi yn y diffeithwch,
‘Unionwch ffordd yr Arglwydd,’ ”
fel y dywedodd Eseia y proffwyd.’#Eseia 40:3
24A’r rhai a anfonasid oedd o’r Phariseaid. 25A hwy a ofynasant iddo ac a ddywedasant wrtho, ‘Paham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na’r Crist nac Elias na’r Proffwyd?’ 26Ioan a atebodd iddynt, gan ddywedyd, ‘Myfi sydd yn bedyddio â dwfr, ond y mae un yn sefyll yn eich plith chwi yr hwn nid adwaenoch chwi. 27Efe yw’r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o’m blaen i, yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgid.’
28Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethania, y tu hwnt i’r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
Wele Oen Duw
29Trannoeth efe a ganfu yr Iesu yn dyfod ato; ac efe a ddywedodd, ‘Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn dwyn ymaith bechod y byd. 30Hwn yw efe am yr hwn y dywedais i, “Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o’m blaen i, canys yr oedd efe o’m blaen i.” 31A myfi nid adwaenwn ef, eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y deuthum i, gan fedyddio â dwfr.’
32Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, ‘Mi a welais yr Ysbryd yn disgyn megis colomen o’r nef, ac efe a arhosodd arno ef. 33A myfi nid adwaenwn ef; eithr yr hwn a’m hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthyf, “Ar yr hwn y gwelych yr Ysbryd yn disgyn ac yn aros arno, hwnnw yw’r un sydd yn bedyddio â’r Ysbryd Glân.” 34A mi a welais ac a dystiolaethais mai hwn yw Mab Duw.’
Y Disgyblion Cyntaf
35Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o’i ddisgyblion. 36A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, ‘Wele Oen Duw.’ 37A’r ddau ddisgybl a’i clywsant ef yn llefaru, ac a ganlynasant yr Iesu.
38Yna yr Iesu a droes; a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, ‘Beth yr ydych chwi yn ei geisio?’ A hwy a ddywedasant wrtho ef, ‘Rabbi,’ (yr hyn o’i gyfieithu yw, Athro) ‘pa le yr wyt ti yn trigo?’ 39Efe a ddywedodd wrthynt, ‘Deuwch a gwelwch.’ A hwy a ddaethant ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arosasant gydag ef y diwrnod hwnnw. Yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.
40Andreas, brawd Simon Pedr, oedd un o’r ddau a glywsent hynny gan Ioan, ac a’i dilynasent ef. 41Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, ‘Nyni a gawsom y Meseia’ (yr hyn o’i gyfieithu yw, Crist). 42Ac efe a’i dug ef at yr Iesu. Yr Iesu wedi edrych arno ef, a ddywedodd, ‘Ti yw Simon mab Jona. Ti a elwir Ceffas’ (yr hwn a gyfieithir, Carreg).
Galw Philip a Nathanael
43Trannoeth yr ewyllysiodd fyned allan i Galilea; ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, ‘Dilyn fi.’ 44A Philip oedd o Fethsaida, o dref Andreas a Phedr.
45Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, ‘Cawsom yr hwn yr ysgrifennodd Moses yn y gyfraith a’r proffwydi amdano, Iesu o Nasareth, mab Joseff.’ 46A Nathanael a ddywedodd wrtho, ‘A ddichon dim da ddyfod o Nasareth?’ Philip a ddywedodd wrtho, ‘Tyred a gwêl.’
47Iesu a ganfu Nathanael yn dyfod ato, ac a ddywedodd amdano, ‘Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll.’ 48Nathanael a ddywedodd wrtho, ‘Pa fodd y’m hadwaenost?’ Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, ‘Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y ffigysbren, mi a’th welais di.’ 49Nathanael a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, ‘Rabbi, ti yw Mab Duw! Ti yw Brenin Israel!’
50Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho ef, ‘Oherwydd i mi ddywedyd i ti, myfi a’th welais di dan y ffigysbren, a ydwyt ti yn credu? Ti a gei weled pethau mwy na’r rhai hyn.’ 51Ac efe a ddywedodd wrtho, ‘Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, o hyn allan y gwelwch y nef yn agored, ac angylion Duw yn esgyn ac yn disgyn ar Fab y dyn.’

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Ioan 1: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക