Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen, ac a dywalltodd allan arian y newidwyr ac a ddymchwelodd y byrddau. Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, ‘Dygwch y rhai hyn oddi yma. Na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad.’