1
Mathew 7:7
Y Testament Newydd Argraffiad Diwygiedig 1991 (William Morgan)
BWMTND
‘Gofynnwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.
താരതമ്യം
Mathew 7:7 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
2
Mathew 7:8
Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a’r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i’r hwn sydd yn curo, yr agorir.
Mathew 7:8 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
3
Mathew 7:24
‘Gan hynny pwy bynnag sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a’i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y graig
Mathew 7:24 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
4
Mathew 7:12
Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy; canys hyn yw’r gyfraith a’r proffwydi.
Mathew 7:12 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
5
Mathew 7:14
Ond cyfyng yw’r porth, a chul yw’r ffordd, sydd yn arwain i’r bywyd; ac ychydig yw’r rhai sydd yn ei chael hi.
Mathew 7:14 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
6
Mathew 7:13
‘Ewch i mewn trwy’r porth cyfyng: canys eang yw’r porth a llydan yw’r ffordd sydd yn arwain i ddistryw, a llawer yw’r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi.
Mathew 7:13 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
7
Mathew 7:11
Os chwychwi gan hynny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da i’r rhai a ofynnant iddo?
Mathew 7:11 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
8
Mathew 7:1-2
‘Na fernwch, fel na’ch barner. Canys â pha farn y barnoch, y’ch bernir; ac â pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau.
Mathew 7:1-2 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
9
Mathew 7:26
A phob un sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, a heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffôl, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod
Mathew 7:26 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
10
Mathew 7:3-4
A phaham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, “Gad imi fwrw allan y brycheuyn o’th lygad”, ac wele drawst yn dy lygad dy hun?
Mathew 7:3-4 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
11
Mathew 7:15-16
‘Gochelwch rhag gau broffwydi, y rhai a ddeuant atoch yng ngwisgoedd defaid, ond oddi mewn bleiddiaid rheibus ydynt hwy. Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gasgl rhai rawnwin oddi ar ddrain, neu ffigys oddi ar ysgall?
Mathew 7:15-16 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
12
Mathew 7:17
Felly pob pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg.
Mathew 7:17 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
13
Mathew 7:18
Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.
Mathew 7:18 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
14
Mathew 7:19
Pob pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
Mathew 7:19 പര്യവേക്ഷണം ചെയ്യുക
ആദ്യത്തെ സ്ക്രീൻ
വേദപുസ്തകം
പദ്ധതികൾ
വീഡിയോകൾ