‘Hefyd, pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrithwyr, yn wyneptrist. Canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bod yn ymprydio. Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. Eithr pan ymprydiech di, eneinia dy ben a golch dy wyneb, fel nad ymddangosech i ddynion dy fod yn ymprydio, ond i’th Dad yr hwn sydd yn y dirgel; a’th Dad yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti.