Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf, efe a ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, cadw fi.’ Ac yn y fan yr estynnodd yr Iesu ei law ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, ‘Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist?’