Ond hi a ddaeth, ac a ymgrymodd iddo, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, cymorth fi.’ Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, ‘Nid da cymryd bara’r plant a’i fwrw i’r cŵn.’ Hithau a ddywedodd, ‘Gwir yw, Arglwydd, ond y mae’r cŵn hwythau yn bwyta o’r briwsion sydd yn syrthio oddi ar fwrdd eu meistri.’