Mathew 14

14
Lladd Ioan Fedyddiwr
1Y pryd hwnnw y clywodd Herod y tetrarch y sôn am yr Iesu. 2Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, ‘Hwn yw Ioan Fedyddiwr; efe a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.’ 3Canys Herod a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai ac a’i dodasai yng ngharchar, oblegid Herodias, gwraig Philip ei frawd ef. 4Canys bu Ioan yn dywedyd wrtho, ‘Nid cyfreithlon i ti ei chael hi.’ 5Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa; canys hwy a’i cymerent ef megis proffwyd.
6Eithr pan ddathlwyd dydd genedigaeth Herod, y dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod. 7O ba herwydd efe a addawodd, trwy lw, roddi iddi beth bynnag a ofynnai. 8A hithau, wedi ei hannog gan ei mam, a ddywedodd, ‘Dyro i mi yma ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl.’ 9A’r brenin a fu drist ganddo; eithr oherwydd y llwon, a’r rhai a eisteddent gydag ef wrth y ford, efe a orchmynnodd ei roi ef iddi. 10Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar. 11A dygwyd ei ben ef mewn dysgl, ac a’i rhoddwyd i’r llances; a hi a’i dug ef i’w mam. 12A’i ddisgyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant y corff ac a’i claddasant, ac a aethant ac a fynegasant i’r Iesu.
Porthi’r Pum Mil
13A phan glywodd yr Iesu, efe a ymadawodd oddi yno mewn llong i anghyfanheddle o’r neilltu; ac wedi clywed o’r torfeydd, hwy a’i canlynasant ef ar draed allan o’r trefi. 14A’r Iesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt; ac efe a iachaodd eu cleifion hwynt.
15Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddisgyblion ato, gan ddywedyd, ‘Y lle sydd anghyfannedd, a’r awr a aeth weithian heibio; gollwng y dyrfa ymaith, fel yr elont i’r pentrefi ac y prynont iddynt fwyd.’
16A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, ‘Nid rhaid iddynt fyned ymaith. Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta.’ 17A hwy a ddywedasant wrtho, ‘Nid oes gennym ni yma ond pum torth a dau bysgodyn.’ 18Ac efe a ddywedodd, ‘Dygwch hwynt yma i mi.’
19Ac wedi gorchymyn i’r torfeydd eistedd ar y gwelltglas, gan gymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, efe a edrychodd i fyny tua’r nef, ac a fendithiodd, ac a dorrodd, ac a roddes y torthau i’r disgyblion, a’r disgyblion i’r torfeydd. 20A hwynt oll a fwytasant ac a gawsant eu digon, ac a godasant o’r briwfwyd oedd yn weddill, ddeuddeg basgedaid yn llawn. 21A’r rhai a fwytasant oedd ynghylch pum mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.
Rhodio ar y Môr
22Ac yn y fan y parodd yr Iesu i’w ddisgyblion fyned i’r llong, a myned i’r lan arall o’i flaen ef, tra byddai efe yn gollwng y torfeydd ymaith. 23Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymaith, efe a esgynnodd i’r mynydd wrtho’i hun, i weddïo; ac wedi eu hwyrhau hi, yr oedd efe yno yn unig. 24A’r llong oedd weithian yng nghanol y môr, yn drallodus gan donnau, canys y gwynt oedd wrthwynebus.
25Ac yn y bedwaredd wylfa o’r nos yr aeth yr Iesu atynt, gan rodio ar y môr. 26A phan welodd y disgyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, ‘Drychiolaeth ydyw.’ A hwy a waeddasant gan ofn. 27Ac yn y fan y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, ‘Cymerwch gysur, myfi ydyw; nac ofnwch.’
28A Phedr a’i hatebodd ac a ddywedodd, ‘O Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod atat ar y dyfroedd.’ 29Ac efe a ddywedodd, ‘Tyred.’ Ac wedi i Pedr ddisgyn o’r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu. 30Ond pan welodd ef y gwynt yn gryf, efe a ofnodd; a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, cadw fi.’ 31Ac yn y fan yr estynnodd yr Iesu ei law ac a ymaflodd ynddo ef, ac a ddywedodd wrtho, ‘Tydi o ychydig ffydd, paham y petrusaist?’
32A phan aethant hwy i mewn i’r llong, peidiodd y gwynt. 33A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a’i haddolasant ef, gan ddywedyd, ‘Yn wir Mab Duw ydwyt ti.’
34Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret. 35A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i’r holl wlad honno o amgylch, ac a ddygasant ato y rhai oll oedd mewn anhwylder. 36A hwy a ddeisyfasant arno gael cyffwrdd yn unig ag ymyl ei wisg ef; a chynifer ag a gyffyrddodd a iachawyd.

നിലവിൽ തിരഞ്ഞെടുത്തിരിക്കുന്നു:

Mathew 14: BWMTND

ഹൈലൈറ്റ് ചെയ്യുക

പങ്ക് വെക്കു

പകർത്തുക

None

നിങ്ങളുടെ എല്ലാ ഉപകരണങ്ങളിലും ഹൈലൈറ്റുകൾ സംരക്ഷിക്കാൻ ആഗ്രഹിക്കുന്നുണ്ടോ? സൈൻ അപ്പ് ചെയ്യുക അല്ലെങ്കിൽ സൈൻ ഇൻ ചെയ്യുക