1
Ioan 13:34-35
beibl.net 2015, 2024
bnet
“Dw i’n rhoi gorchymyn newydd i chi: Carwch eich gilydd. Rhaid i chi garu’ch gilydd yn union fel dw i wedi’ch caru chi. Dyma sut bydd pawb yn gwybod eich bod chi’n ddilynwyr i mi, am eich bod chi’n caru’ch gilydd.”
比較
Ioan 13:34-35で検索
2
Ioan 13:14-15
Felly, am fy mod i, eich Arglwydd a’ch Athro wedi golchi’ch traed chi, dylech chi olchi traed eich gilydd. Dw i wedi rhoi esiampl i chi er mwyn i chi wneud yr un peth i’ch gilydd.
Ioan 13:14-15で検索
3
Ioan 13:7
Atebodd Iesu, “Ti ddim yn deall beth dw i’n wneud ar hyn o bryd, ond byddi’n dod i ddeall yn nes ymlaen.”
Ioan 13:7で検索
4
Ioan 13:16
Credwch chi fi, dydy caethwas ddim uwchlaw ei feistr, a dydy negesydd ddim yn bwysicach na’r un wnaeth ei anfon e.
Ioan 13:16で検索
5
Ioan 13:17
Dych chi’n gwybod y pethau yma, ond eu gwneud sy’n dod â bendith.
Ioan 13:17で検索
6
Ioan 13:4-5
Cododd oddi wrth y bwrdd, tynnu ei fantell allanol, a rhwymo tywel am ei ganol. Yna tywalltodd ddŵr i fowlen a dechrau golchi traed ei ddisgyblion, a’u sychu gyda’r tywel oedd am ei ganol.
Ioan 13:4-5で検索