1
Eseia 54:17
beibl.net 2015, 2024
bnet
Ond fydd yr arfau sydd wedi’u llunio i dy daro di ddim yn llwyddo, a bydd y rhai sy’n codi i dystio yn dy erbyn yn cael eu condemnio. Dyna ydy etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD, a’r hyn dw i wedi’i wneud iddyn nhw.” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.
比較
Eseia 54:17で検索
2
Eseia 54:10
Falle y bydd y mynyddoedd yn symud a’r bryniau’n cael eu hysgwyd, ond bydd fy nghariad i atoch chi yn aros, a fydd fy ymrwymiad heddwch ddim yn siglo,” –meddai’r ARGLWYDD, sy’n dy garu di.
Eseia 54:10で検索
3
Eseia 54:4
Paid bod ag ofn, gei di ddim dy wrthod. Paid synnu, gei di ddim dy siomi! Byddi’n anghofio cywilydd dy ieuenctid, ac yn cofio dim am warth dy gyfnod fel gweddw.
Eseia 54:4で検索
4
Eseia 54:5
Mae’r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw e. Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di’n rhydd – ie, ‘Duw yr holl daear’.
Eseia 54:5で検索
5
Eseia 54:2
“Gwna fwy o le i dy babell, a lledu’r llenni lle rwyt ti’n byw! Estyn nhw allan! Paid dal yn ôl! Gwna’r rhaffau’n hirach, rho’r pegiau’n sownd.
Eseia 54:2で検索
6
Eseia 54:13
Bydd pob un o dy blant yn cael eu dysgu gan yr ARGLWYDD, a bydd dy blant yn profi heddwch mawr.
Eseia 54:13で検索
7
Eseia 54:8
Rôn i wedi gwylltio am foment, ac wedi troi i ffwrdd oddi wrthot ti. Ond gyda chariad sy’n para am byth bydda i’n garedig atat ti eto,” –meddai’r ARGLWYDD, sy’n dy ollwng di’n rhydd.
Eseia 54:8で検索
8
Eseia 54:7
“Gwrthodais di am ennyd fach, ond gyda thosturi mawr bydda i’n dod â ti’n ôl.
Eseia 54:7で検索
9
Eseia 54:9
“Mae’r un fath â’r dilyw yng nghyfnod Noa. Fel gwnes i addo bryd hynny na fyddai’r ddaear yn cael ei boddi byth eto, dw i’n addo i chi na fydda i’n ddig hefo chi, nac yn eich cosbi eto.
Eseia 54:9で検索
10
Eseia 54:12
Bydda i’n gwneud dy dyrau o emau, dy giatiau o risial coch, a bydd dy waliau i gyd yn feini gwerthfawr.
Eseia 54:12で検索