1
Eseciel 18:32
beibl.net 2015, 2024
bnet
Dw i ddim yn mwynhau gweld unrhyw un yn marw,” meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD. “Felly trowch gefn ar y cwbl, a cewch fyw!”
比較
Eseciel 18:32で検索
2
Eseciel 18:20
Yr un sy’n pechu fydd yn marw. Fydd mab ddim yn dioddef am y drwg wnaeth ei dad, a fydd tad ddim yn dioddef am ddrygioni ei fab. Bydd y bobl sy’n gwneud beth sy’n iawn yn cael eu gwobr, a bydd pobl ddrwg yn cael eu cosbi am beth wnaethon nhw.
Eseciel 18:20で検索
3
Eseciel 18:31
Stopiwch dynnu’n groes i mi, a chewch galon newydd ac ysbryd newydd! Pam ddylech chi ddewis marw, bobl Israel?
Eseciel 18:31で検索
4
Eseciel 18:23
“Ydw i’n mwynhau gweld pobl ddrwg yn marw?” meddai’r ARGLWYDD. “Wrth gwrs ddim! Byddai’n well gen i eu gweld nhw’n troi cefn ar yr holl ddrwg a chael byw.
Eseciel 18:23で検索
5
Eseciel 18:21
“Ond os ydy rhywun sydd wedi gwneud pethau drwg yn troi cefn ar y ffordd yna o fyw ac yn dechrau gwneud beth sy’n iawn ac yn deg a gwrando arna i, bydd e’n cael byw. Fydd dim rhaid iddo farw.
Eseciel 18:21で検索
6
Eseciel 18:9
Mae e’n gwneud beth dw i’n ddweud, ac yn cadw fy rheolau i. Dyna beth ydy byw bywyd da! Bydd person felly yn sicr o gael byw,” meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD.
Eseciel 18:9で検索