1
2 Corinthiaid 1:3-4
beibl.net 2015, 2024
bnet
Clod i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist! Fe ydy’r Tad sy’n tosturio a’r Duw sy’n cysuro. Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion, felly dŷn ni yn ein tro yn gallu cysuro pobl eraill. Dŷn ni’n eu cysuro nhw drwy rannu am y ffordd mae Duw’n ein cysuro ni.
比較
2 Corinthiaid 1:3-4で検索
2
2 Corinthiaid 1:5
Po fwya dŷn ni’n rhannu profiad y Meseia, mwya dŷn ni’n cael ein cysuro ganddo.
2 Corinthiaid 1:5で検索
3
2 Corinthiaid 1:9
a’n bod ni wir yn mynd i farw. Ond pwrpas y cwbl oedd i ni ddysgu trystio Duw yn lle trystio ni’n hunain. Fe ydy’r Duw sy’n dod â’r meirw yn ôl yn fyw!
2 Corinthiaid 1:9で検索
4
2 Corinthiaid 1:21-22
A Duw ydy’r un sy’n ein galluogi ni (a chithau hefyd!) i sefyll yn gadarn dros y Meseia. Dewisodd ni i weithio drosto, ac mae wedi’n marcio ni’n bobl iddo’i hun. Mae wedi rhoi ei Ysbryd y tu mewn i ni, yn flaendal o’r cwbl sydd i ddod.
2 Corinthiaid 1:21-22で検索
5
2 Corinthiaid 1:6
Dŷn ni’n gorfod wynebu trafferthion er mwyn i chi gael eich cysuro a’ch cadw’n saff. Pan dŷn ni’n cael ein cysuro, dylai hynny hefyd fod yn gysur i chi, a’ch helpu chi i ddal ati pan fyddwch chi’n dioddef yr un fath â ni.
2 Corinthiaid 1:6で検索