1
Lyfr y Psalmau 40:1-2
Salmau Cân - Y Psallwyr 1850 (Nicander)
SC1850
Disgwyliais wrth yr Arglwydd Ner, Gan ddyfal arfer gweddi; Gostyngodd Yntau at fy nghais, A chlybu ’m llais yn gwaeddi. O’r dyfnder croch, o’r dom a’r llaid, Y rhoes i’m henaid godiad; Fy nhraed ar gadarn graig a rôdd, A hwyliodd fy ngherddediad.
比較
Lyfr y Psalmau 40:1-2で検索
2
Lyfr y Psalmau 40:3
Rhoes yn fy ngenau fawl i rad Fy Nuw mewn caniad newydd; Llawer wrth weled, ofni wnant, Ac ynddo credant beunydd.
Lyfr y Psalmau 40:3で検索
3
Lyfr y Psalmau 40:4
Gwyn fyd y gwr, mor ddedwydd yw! I’r hwn bo Duw yn hyder; Heb droi at falch nac anwir ffol, Ond byw yn ol unionder.
Lyfr y Psalmau 40:4で検索
4
Lyfr y Psalmau 40:8
Fy hoffaf waith, O Dduw di‐lys, Yw gwneud d’ ewyllys cyfion; A’th gyfraith sydd, bob iot a rhan, Yn nyfnaf fan fy nghalon.
Lyfr y Psalmau 40:8で検索
5
Lyfr y Psalmau 40:11
Tithau nac attal, Arglwydd mau, Dy drugareddau rhagof; Gwareded fi dy ras di‐lyth, Heb adu byth mo honof.
Lyfr y Psalmau 40:11で検索