Ioan Marc 7:17-23
Ioan Marc 7:17-23 CJW
Gwedi iddo gilio oddwrth y bobl i dŷ, ei ddysgyblion á ofynasant iddo ystyr y frawddeg hòno. Yntau á atebodd, A ydych chwithau hefyd yn ddiddëall? Oni wyddoch chwi na all bethbynag sydd oddallan i ddyn yn myned i fewn iddo, ei halogi ef; am nad ydyw yn myned iddei galon ef, ond iddei gylla, o’r lle y mae pob anmhuredd yn yr ymborth yn cael ei fwrw i’r geudy. Ond, meddai efe hefyd, yr hyn sydd yn dyfod allan o’r dyn, hyny sydd yn halogi y dyn: canys o fewn y galon ddynol y deillia drygddyfeisiau, godinebau, puteiniadau, llofruddiaethau, lladradau, trachwantau, drygwyllys, twyll, anlladrwydd, cenfigen, enllib, trahausder, ysgafndra. Yr holl ddrygau hyn sydd yn dyfod oddifewn ac yn halogi y dyn.




