Ioan Marc 10:17-22
Ioan Marc 10:17-22 CJW
Fel yr oedd efe yn myned allan i’r ffordd, daeth un ato dàn redeg, yr hwn, gàn ostwng àr ei liniau, á ofynodd iddo, Athraw da, pa beth sy raid i mi ei wneuthur, fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol? Iesu á atebodd, Paham y gelwi fi yn dda? Duw yn unig sy dda. A wyddost ti y gorchymynion? Na wna odineb; na lofruddia; na ladrata; na chamdystiolaetha; na chamgolleda; anrhydedda dy dad a’th fam. Y llall á atebodd, Rabbi, mi á gedwais y rhai hyn oll o’m plentyndod. Iesu, gwedi edrych arno, á’i hoffodd ef, ac á ddywedodd wrtho, Yr wyt, ti, èr hyny, yn ddiffygiol mewn un peth. Dos, gwerth yr hyn oll sy genyt, a dyro y gwerth i’r tylodion, a thi á gai drysor yn y nef; yna dyred a chanlyn fi, gàn ddwyn y groes. Yntau á bruddâodd wrth yr atebiad hwn, ac á aeth ymaith yn athrist; oblegid yr oedd ganddo feddiannau lawer.





