Logo YouVersion
Icona Cerca

Hosea LLYFR Y PROPHWYD HOSEA

LLYFR Y PROPHWYD HOSEA
Prophwyd i’r deg llwyth oedd Hosea; a thybygir iddo brophwydo ynghylch triugain mlynedd! Ei gyfoedion yn Iowdea oeddynt Isaia a Mica; ac ymhlith y deg llwyth, Amos. Nis gwyddir dim am dano, ond ei fod yn “fab Beeri:” tebyg yr hanai o un o’r deg llwyth.
Crynodeb yn ddïau o’i bregethau dros gymaint o amser yw yr hyn a gynnwysir yn ei lyfr, sylwedd o’r hyn a draddodasai. Gwelwn yma y pechodau o’r rhai yr oedd y deg llwyth yn euog; eilun-addoliaeth a rwysgai yn benaf, a’i chymdeithion gwastadol, gormes, meddwdod, ac anlladrwydd.
Un tra geirfyr o ran y modd o lefaru oedd Hosea, a buan yn fynych yw ei drwydded o un peth i’r llall: arfera hefyd eiriau ar eu penau eu hunain, fel testun i’r hyn a ganlyn, yr hyn a eilw Esgob Horsley yn enwai anymddibynol (nominative case absolute). Aml hefyd y cyfnewidia yr ansodion ti ac efe, chwi a hwynt; felly hefyd am y rhifau ti a chwi, efe a hwynt. Geilw Israel ti, gan olygu y genedl; a geilw Israel chwi, gan olygu y llwythau. Ond nid yw y pethau yn peri un dyryswch, pan ganfyddir rhaniadau yr araeth, yr hyn yw yr anhawsdra mwyaf.
Gwelwn yma ddau beth yn enwedig, sef tuedd ddïymdro y bobl at eilun-addoliaeth, a hirymaros Duw tuag atynt.
LLYFR Y PROPHWYD HOSEA

Attualmente Selezionati:

Hosea LLYFR Y PROPHWYD HOSEA: CJO

Evidenzia

Copia

Confronta

Condividi

None

Vuoi avere le tue evidenziazioni salvate su tutti i tuoi dispositivi?Iscriviti o accedi