Logo YouVersion
Icona Cerca

Mathew 20

20
1Canys cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ddyn o benteulu a aeth allan gyda’r dydd i gyflogi gweithwyr i’w winllan. 2Ac wedi cytuno â’r gweithwyr am swllt y dydd, anfonodd hwynt i’w winllan. 3Ac aeth allan ynghylch y drydedd awr a gwelodd eraill yn sefyll yn y farchnad yn ddi-waith, 4a dywedodd wrth y rheini, ‘Ewch chwithau hefyd i’r winllan, a pha beth bynnag a fo cyfiawn mi a’i rhoddaf i chwi.’ 5A hwy aethant. A thrachefn yr aeth allan ynghylch y chweched a’r nawfed awr, a gwnaeth yr un modd. 6Ac ynghylch yr unfed awr ar ddeg aeth allan, a chafodd eraill yn sefyll, ac medd wrthynt ‘Paham yr ydych yn sefyll yma ar hyd y dydd yn ddi-waith?’ 7Meddant wrtho, ‘Am na chyflogodd neb ni.’ Medd ef wrthynt, ‘Ewch chwithau hefyd i’r winllan.’ 8Ac wedi iddi hwyrhau, medd arglwydd y winllan wrth ei oruchwyliwr, ‘Galw’r gweithwyr, a thâl iddynt eu cyflog, gan ddechrau o’r rhai olaf hyd y rhai cyntaf.’ 9A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr unfed awr ar ddeg, cawsant swllt yr un. 10A phan ddaeth y rhai cyntaf tybiasant y caent fwy; eto cawsant hwythau hefyd swllt yr un. 11Ond pan gawsant, dechreuasant rwgnach yn erbyn y penteulu, 12gan ddywedyd, ‘Un awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a gwnaethost hwynt yn gyfartal â ni, sy wedi dwyn pwys y dydd a’r gwres.’ 13Atebodd yntau i un ohonynt, ‘Gyfaill, nid wyf yn gwneuthur cam â thi; onid am swllt y cytunaist â mi? 14Cymer yr eiddot, a dos; yr wyf yn dewis rhoi i’r olaf hwn fel i tithau; 15onid cyfreithlon i mi wneuthur a fynnwyf â’m pethau fy hun? Neu ai cenfigennus wyt ti am fy mod i’n garedig?’#20:15 Gr., a yw dy lygad di’n ddrwg, am fy mod i’n dda? 16Felly y bydd y rhai olaf yn flaenaf, a’r rhai blaenaf yn olaf.”
17A’r Iesu ar fedr mynd i fyny i Gaersalem, fe gymerth y deuddeg o’r neilltu, ac ar y ffordd dywedodd wrthynt, 18“Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem, a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a chondemniant ef i farwolaeth, 19a thraddodant ef i’r cenhedloedd i’w watwar a’i ffrewyllu ai groeshoelio, a’r trydydd dydd fe gyfyd.”
20Yna y daeth ato fam meibion Sebedeus gyda’i meibion, gan ymgrymu a cheisio rhywbeth ganddo. 21Dywedodd yntau wrthi, “Beth a fynni?” Medd hi wrtho, “Dywed am i’m dau fab hyn gael eistedd un ar dy ddeheulaw ac un ar dy aswy yn dy deyrnas.” 22Atebodd yr Iesu, “Ni wyddoch beth a ofynnwch. A ellwch yfed y cwpan yr wyf i ar fedr ei yfed?” Meddant wrtho, “Gallwn.” 23Medd ef wrthynt, “Fy nghwpan a yfwch, ond eistedd ar fy neheulaw ac ar fy aswy nid eiddof i ei roi, eithr i’r rhai y darparwyd iddynt gan fy Nhad y mae.” 24A phan glywodd y deg, digiasant ynghylch y ddau frawd. 25A galwodd yr Iesu hwynt ato, a dywedodd, “Chwi wyddoch fod llywodraethwyr y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt a’u mawrion yn awdurdodi arnynt. 26Nid felly y mae yn eich plith chwi; eithr pwy bynnag a fynno ddyfod yn fawr yn eich plith chwi, bydded was i chwi, 27a phwy bynnag a fynno fod yn flaenaf yn eich plith chwi, bydded gaethwas i chwi; 28megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth yn lle llawer.”
29A hwy’n myned allan o Iericho, dilynodd tyrfa fawr ef. 30A dyma ddau ddyn dall a oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn gweiddi, pan glywsant fod Iesu’n mynd heibio, “Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd!” 31A’r dyrfa a’u ceryddodd hwynt i gael ganddynt dewi; mwy fyth y gwaeddasant hwythau gan ddywedyd, “Arglwydd, tosturia wrthym, Fab Dafydd!” 32A safodd yr Iesu, a galwodd hwynt, a dywedodd, “Beth a fynnwch i mi ei wneuthur i chwi?” 33Meddant wrtho, “Arglwydd, cael agor ein llygaid.” 34Tosturiodd yr Iesu wrthynt, a chyffyrddodd â’u llygaid, ac yn y fan cawsant eu golwg a dilynasant ef.

Attualmente Selezionati:

Mathew 20: CUG

Evidenzia

Condividi

Confronta

Copia

None

Vuoi avere le tue evidenziazioni salvate su tutti i tuoi dispositivi?Iscriviti o accedi