Canys fel y bu dyddiau Noe, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn; canys fel yr oeddent yn y dyddiau hynny cyn y dilyw yn bwyta ac yn yfed, yn priodi ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Nöe i mewn i’r arch, ac ni wybuant hyd oni ddaeth y dilyw a’u cipio hwynt oll, felly y bydd dyfodiad Mab y dyn.