Habacuc 2:2-3
Habacuc 2:2-3 BNET
A dyma’r ARGLWYDD yn ateb: “Ysgrifenna’r neges yma yn glir ar lechi, i’r negeswr sy’n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd. Mae’n weledigaeth o beth sy’n mynd i ddigwydd; mae’n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e’n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar – mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn.





