Rhufeiniaid 13
13
1Ymostynged pob enaid i awdurdodau sy trosto. Canys nid oes awdurdod oddieithr gan Dduw, a’r rheini y sydd, gan Dduw y gosodwyd hwynt. 2Felly y mae’r neb a’i gesyd ei hun yn erbyn yr awdurdod yn gwrthwynebu gosodiad Duw, a derbynia’r gwrthwynebwyr ddedfryd arnynt eu hunain. 3Canys nid yw swyddogion yn achos ofn i’r weithred dda, ond i’r weithred ddrwg. Ond a ddymuni fod heb ofni’r awdurdod? Gwna’r peth sy dda, a chei glod ganddo; 4canys gweinidog Duw ydyw i ti er daioni. Ond os y peth sy ddrwg a wnei, ofna, oblegid ni wisg ef y cleddyf yn ofer; canys gweinidog Duw ydyw, yn dial er digofaint ar y drwgweithredwyr. 5Felly rhaid yw ymostwng, nid yn unig o achos y digofaint, eithr o achos cydwybod hefyd. 6O achos hyn yr ydych yn talu pob teyrnged hefyd; canys cyfrwng Duw ydyw yn dyfal weithredu i’r un peth hwn. 7Telwch i bawb eich dyledion, teyrnged i’r neb y mae arnoch deyrnged, treth i’r neb y mae arnoch dreth, ofn i’r neb y mae arnoch ofn, parch i’r neb y mae arnoch barch. 8Na foed arnoch ddim dyled i neb, oddieithr i garu eich gilydd; oblegid a garo arall a gyflawnodd y ddeddf. 9Canys y gorchmynion hyn: Na odineba, na ladd, na ladrata, na thrachwanta,#Ecs. 20:13. ac os oes unrhyw orchymyn arall, fe’u crynhoir yn un yn y gair hwn: Câr dy gymydog fel ti dy hun.#Lef. 18:18. 10Ni phair cariad ddrwg i gymydog; gan hynny y mae cariad yn gyfiawnder deddf.
11A hyn hefyd, am eich bod yn gwybod yr amser, ei bod yn bryd i chwi ddeffroi o gwsg; canys yn awr y mae ein hiachawdwriaeth yn nes na phan gredasom. 12Aeth y nos rhagddi ymhell ac y mae’r dydd yn agos. Diosgwn gan hynny weithredoedd y tywyllwch, ac ymwisgwn ag arfau’r goleuni. 13Rhodiwn yn weddaidd megis yn y dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn godineb ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen. 14Yn hytrach ymwisgwch â’r Arglwydd Iesu Grist, ac na ragfeddyliwch am y cnawd, i foddio ei chwantau.
Tällä hetkellä valittuna:
Rhufeiniaid 13: CUG
Korostus
Jaa
Vertaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945