Actau'r Apostolion 27

27
1A phan benderfynwyd ar hwylio ohonom i’r Eidal, rhoent Baul a rhai carcharorion eraill yng ngofal canwriad, a’i enw Iwlius, o’r fintai Ymerodrol. 2Ac wedi i ni fynd ar long o Adramyttium, a oedd ar fedr hwylio i’r lleoedd ar hyd glannau Asia, codasom hwyl, a chyda ni Aristarchus, Macedoniad o Thesalonica. 3A thrannoeth tiriasom yn Sidon, ac fe ymddug Iwlius yn garedig tuagat Baul a rhoi cennad iddo i fynd at ei gyfeillion a chael bod dan ofal. 4Ac oddiyno, wedi codi angor, hwyliasom yng nghysgod Cyprus am fod y gwyntoedd yn ein herbyn; 5ac wedi i ni hwylio dros y môr sydd gerllaw Cilicia a Phamffylia, cyraeddasom Fyra yn Lycia. 6Ac yno fe gafodd y canwriad long o Alecsandria, a oedd ar ei thaith i’r Eidal, ac fe’n gosododd ni arni. 7Am gryn ddyddiau araf hwylio yr oeddem, a braidd y deuthom ar gyfer Cnidus, ac am na adai’r gwynt inni, hwyliasom yng nghysgod Crete ar gyfer Salmône, 8a braidd trwy hwylio gyda’r tir y deuthom i ryw le a elwid Porthladdoedd Teg, a cherllaw iddo yr oedd dinas Lasea. 9A chan fod cryn amser wedi treiglo a bod morio bellach yn beryglus, oherwydd yr oedd hyd yn oed yr Ympryd eisoes wedi mynd heibio, fe gynghorai Paul hwynt, 10gan ddywedyd wrthynt; “Wŷr, gwelaf fod difrod a mawr golled, nid yn unig i’r llwyth ac i’r llong ond i’n bywydau ni hefyd, i ganlyn y fordaith.” 11Ond gwrandawai’r canwriad yn hytrach ar y peilat a’r capten nag ar ddim a ddywedai Paul. 12A chan fod y porthladd yn anghymwys i aeafu ynddo, fe roes y rhan fwyaf farn dros hwylio oddiyno, i gyrraedd, os gallent rywfodd, Phoenix, a gaeafu yno — porthladd yng Nghrete yn edrych tua’r dehau-orllewin a’r gogledd-orllewin. 13A phan araf chwythodd deheuwynt, tybiasant iddynt gael eu hamcan, â chodasant angor a chadw gyda thir Crete, yn agos i’r lan. 14Ond cyn hir fe ruthrodd i lawr o’r tir wynt tymhestlog, a elwir Ewracwilo; 15cipiwyd y llong, a chan na allai ddal yng ngwrthwyneb i’r gwynt, ildio a wnaethom, a gyrru o’i flaen. 16Ac wedi rhedeg yng nghysgod rhyw ynys fechan, a elwir Cawda, prin y gallasom gael meddiant o’r bâd, 17ac wedi ei godi defnyddio cynorthwyon a wnaethant i amwregysu’r llong; ac a hwythau’n ofni rhag eu bwrw ar y Syrtis, gostyngasant y teclyn, a mynd gyda’r llif felly. 18Ac a ni’n flin iawn arnom gan y dymestl, dechreuasant drannoeth daflu o’r llong, 19a’r trydydd dydd lluchio ymaith a wnaethant â’u dwylo eu hunain daclau’r llong. 20A phan nad ymddangosai na haul na sêr dros ddyddiau lawer, a thymestl fawr yn gwasgu arnom, o hynny allan dwyn oddiarnom yr oeddid bob gobaith am ein cadw. 21A phan fu hir eisiau bwyd, yna cododd Paul yn eu canol hwynt a dywedyd: “Wŷr, chwi ddylasech wrando arnaf fi, a pheidio â chychwyn allan o Grete, ac arbed y difrod hwn a’r golled. 22Hyd yn oed yn awr cynghoraf chwi i ymwroli, canys ni bydd dim colli bywyd yn eich plith chwi, ond yn unig y llong; 23canys fe safodd yn fy ymyl neithiwr angel y Duw piau fi a’r hwn yr wyf yn ei addoli, 24a dywedyd, ‘Paid ag ofni, Paul; ger bron Cesar y mae’n rhaid i ti sefyll, a dyma Dduw wedi rhoddi i ti y rhai oll sy’n morio gyda thi.’ 25Felly ymwrolwch, wŷr; canys yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, y modd y dywedwyd i mi. 26Ond ar ryw ynys y mae’n rhaid ein bwrw ni.” 27A phan ddaeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ni’n ymdroi ym môr Hadria, tua chanol nos fe dybiai’r morwyr fod rhyw wlad yn dynesu. 28A phlymio a wnaethant a chael ugain gwryd; ac wedi symud ychydig, plymio drachefn a chael pymtheg gwryd. 29Ac a hwy’n ofni rhag efallai ein bwrw ar leoedd geirwon, bwriasant bedair angor o’r starn, a dyheu a wnaent am iddi ddyddhau. 30A’r morwyr yn ceisio ffoi o’r llong ac wedi gollwng y bâd i’r môr dan esgus mynd i estyn angorau o’r pen blaen, 31fe ddywedodd Paul wrth y canwriad a’r milwyr, “Onid erys y rhain yn y llong, ni ellwch chwi gael eich cadw.” 32Yna fe dorrodd y milwyr raffau’r bâd, a gadasant iddo gwympo ymaith. 33A hyd onid oedd hi ar ddyddhau, anogai Paul bawb i gymryd peth lluniaeth, gan ddywedyd, “Erbyn heddiw ers pedwar diwrnod ar ddeg yr ydych yn dal ar eich cythlwng i ddisgwyl, heb gymryd dim. 34Felly yr wyf yn dymuno arnoch gymryd peth lluniaeth, oblegid y mae hynny y mhlaid eich achubiaeth; canys i ddim un ohonoch ni chollir blewyn oddiar ei ben.” 35Ac wedi iddo ddywedyd hyn fe gymerth fara, a diolchodd i Dduw yng ngŵydd pawb, ac wedi iddo dorri fe ddechreuodd fwyta. 36Ac ymwroli a wnaeth pawb a chymryd hwythau hefyd beth lluniaeth. 37(Yr oeddem i gyd yn y llong yn rhyw un ar bymtheg a thrigain#27:37 Felly y llawysgrif hynaf: yn y lleill fe ddarllenir yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain. o eneidiau.) 38Ac wedi iddynt gael eu gwala o luniaeth, ysgafnhaent y llong trwy fwrw yr ŷd allan i’r môr. 39A phan ddaeth hi yn ddydd, nid adwaenent y tir, ond canfyddent ryw gilfach ac iddi draeth, ac ymgynghori a allent ddwyn y llong i mewn iddi yn ddiogel.#27:39 Yn ôl rhai llawysgrifau, wthio’r llong i mewn iddi. 40A thorri ymaith yr angorau a wnaethant, a’u gadael yn y môr; yr un pryd datod cyplau’r llywiau, a chodi’r hwyl flaen i’r awel, a chyfeirio tua’r traeth. 41Ond wedi iddynt syrthio ar le rhwng dau fôr gyrasant y llong i dir, ac fe lynodd y pen blaen, a safodd, yn ddiysgog, ond y starn oedd yn ymddatod dan y grym. 42A chyngor y milwyr a fu lladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio ymaith a dianc. 43Ond gan yr ewyllysiai’r canwriad achub Paul, fe rwystrodd iddynt eu dymuniad, a gorchmynnodd i’r rhai a fedrai nofio ymdaflu allan yn gyntaf, 44a mynd ymaith tua’r tir, ac yna’r lleill, rhai ar ystyllod ac eraill ar ryw ddrylliau o’r llong ac felly y darfu i bawb ddyfod yn ddiogel i’r tir.

Tällä hetkellä valittuna:

Actau'r Apostolion 27: CUG

Korostus

Jaa

Vertaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään