Actau'r Apostolion 23
23
1A syllodd Paul ar y Sanhedrin, a dywedodd, “A chydwybod gwbl dda y cyflewnais i fy neiliadaeth i Dduw hyd y dydd heddiw.” 2Ac archodd yr Archoffeiriad Ananias i’r rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl ei daro ar ei enau. 3Yna fe ddywedodd Paul wrtho, “Dy daro dithau a wna Duw, di bared wedi ei wyngalchu. A wyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y gyfraith, ac eto gan dorri’r gyfraith yn gorchymyn fy nharo?” 4Dywedodd y rhai oedd yn sefyll yn ei ymyl, “A wyt ti yn difrïo Archoffeiriad Duw?” 5Ac ebe Paul, “Ni wyddwn, frodyr, ei fod yn Archoffeiriad; canys y mae’n ysgrifenedig, Am bennaeth dy bobl na ddywed yn ddrwg.”#Ecs. 22:28. 6A phan wybu Paul fod y naill ran o’r Sadwceaid, a’r lleill o’r Phariseaid, dechreuodd weiddi yn y Sanhedrin, “Frodyr, Pharisead wyf fi, mab Phariseaid; am obaith ac atgyfodiad y meirw y’m bernir.” 7A thra oedd yntau’n llefaru felly, cyfododd ymryson rhwng y Phariseaid a’r Sadwceaid, a rhwygwyd y lliaws. 8Canys fe ddywed y Sadwceaid nad oes atgyfodiad nac angel nac ysbryd, eithr maentumia’r Phariseaid hwynt i gyd. 9A bu cynnwrf mawr, a chyfododd rhai o’r ysgrifenyddion a oedd o blaid y Phariseaid, ac ymegnïo, gan ddywedyd, “Ni chawn ni ddim drwg yn y dyn hwn; ac os llefarodd ysbryd wrtho, neu angel — — ” 10Ond a’r ymryson yn cynyddu’n fawr, ofnodd y capten rhag tynnu Paul yn ddarnau ganddynt, a gorchmynnodd i’r fintai filwyr fynd i lawr a’i gipio ef o’u plith hwynt, i’w ddwyn i’r castell. 11A’r nos ddilynol safodd yr Arglwydd yn ei ymyl, a dywedodd, “Cymer galon! Canys fel y tystiolaethaist yn groyw amdanaf fi yng Nghaersalem, felly y mae’n rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.”
12Pan ddaeth hi yn ddydd fe wnaeth yr Iddewon gynllwyn, ac ymddiofrydu gan ddywedyd na fwytaent ac nad yfent hyd nes lladd Paul. 13Ac yr oedd mwy na deugain a wnaeth y cydfwriad hwn. 14Aeth y rhain at yr Archoffeiriaid a’r henuriaid, a dywedasant, “Ymddiofrydu ar lw a wnaethom na phrofem ddim hyd nes lladd Paul. 15Yn awr, felly, hysbyswch chwi ynghyd â’r Sanhedrin i’r capten, fel y dyco ef i lawr ger eich bron, fel pe baech ar fedr chwilio yn fanylach yn ei gylch; a ninnau, cyn iddo gyrraedd, parod ydym i’w ladd ef.” 16Ond fe glywodd mab chwaer Paul am y cynllwyn, ac fe aeth i’r castell, ac wedi iddo fynd i mewn fe’i mynegodd i Baul. 17Ac fe alwodd Paul un o’r canwriaid ato, ac eb ef, “Dos â’r llanc yma at y capten; y mae ganddo rywbeth i’w fynegi iddo.” 18Felly fe’i cymerth yntau ef, a’i ddwyn at y capten, ac eb ef, “Galwodd y carcharor Paul fi, a gofynnodd imi ddwyn y llanc hwn atat ti, am fod ganddo rywbeth i’w ddywedyd wrthyt.” 19A chymerth y capten afael yn ei law, ac wedi iddo gilio o’r neilltu fe holodd, “Beth yw’r hyn sydd gennyt i’w fynegi i mi?” 20Ac fe ddywedodd, “Cytunodd yr Iddewon i ofyn i ti am ddwyn Paul i lawr yfory i’r Sanhedrin, fel pe baut#23:20 Yn ôl rhai awdurdodau, fel pe baent. am holi yn fanylach yn ei gylch. 21Yn awr, na chydsynia di â hwynt, canys y mae gwŷr o’u plith, mwy na deugain, yn cynllwyn yn ei erbyn; ymddiofrydu a wnaeth y rhain na fwytaent ac nad yfent hyd nes ei ladd ef, ac y maent yn barod yn awr, yn disgwyl am yr addewid oddiwrthyt ti.” 22Gollyngodd y capten, felly, y llanc ifanc, gan orchymyn, “Na ddywed wrth neb iti hysbysu’r pethau hyn i mi.” 23Ac wedi iddo alw ato ryw ddau o’r canwriaid, fe ddywedodd, “Paratowch ddau can milwr, i gyrchu hyd Gesarea, a deg a thrigain o wŷr meirch a dau can picellwr,#23:23 Ni wyddys yn sicr ystyr y gair Groeg. ar y drydedd awr o’r nos.” 24Yr oeddynt i ddarparu anifeiliaid hefyd, i osod Paul arnynt a’i ddwyn yn ddiogel at Ffelix, y rhaglaw. 25Ac ysgrifennodd lythyr yn cynnwys hyn o sylwedd. 26“Clawdius Lysias at yr ardderchocaf raglaw Ffelix, henffych well. 27Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac yr oedd ar fin ei ladd ganddynt, ond deuthum ar eu gwarthaf gyda’r fintai ac achubais ef, wedi deall mai Rhufeiniwr oedd; 28ac a mi’n ewyllysio cael gwybod yr achos eu bod yn achwyn arno, dygais ef i lawr ger bron eu Sanhedrin.#23:28 Yn un o’r llawysgrifau hynaf nid ymddengys y geiriau, dygais…Sanhedrin. 29A chefais yr achwynid arno ynghylch cwestiynau eu cyfraith hwynt, ond nad oedd dim cwyn arno a haeddai farwolaeth neu garchar. 30A chan yr hysbyswyd i mi fod cynllwyn i fod yn erbyn y gŵr, yr wyf fi yn ei anfon atat ti ar unwaith, wedi gorchymyn i’w gyhuddwyr hwythau draethu yn ei erbyn ger dy fron di.”
31Felly yn ôl y cyfarwyddyd a gawsant fe gymerth y milwyr Baul i ffwrdd a’i ddwyn o hyd nos i Antipatris. 32A thrannoeth gadasant i’r gwŷr meirch fynd ymaith gydag ef, a dychwelasant i’r castell. 33Hwythau, wedi mynd i mewn i Gesarea, rhoesant y llythyr i’r rhaglaw, a chyflwynasant Baul hefyd iddo. 34Ac wedi iddo yntau ei ddarllen, a gofyn o ba dalaith yr oedd, a deall mai o Gilicia, 35eb ef, “Mi wrandawaf dy achos, pan ddêl dy gyhuddwyr hwythau.” A gorchmynnodd ei gadw ef ym mhlasty Herod.
Tällä hetkellä valittuna:
Actau'r Apostolion 23: CUG
Korostus
Jaa
Vertaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945