Actau'r Apostolion 18
18
1Wedi hynny fe ymadawodd o Athen, a dyfod i Gorinth. 2A daeth o hyd i ryw Iddew, a’i enw Acwila, o Bontus o ran cenedl, gŵr oedd newydd ddyfod o’r Eidal gyda’i wraig, Priscila, oherwydd gorchymyn Clawdius i’r holl Iddewon ymadael o Rufain; ac aeth atynt, 3ac am ei fod o’r un grefft arhosai gyda hwynt, a gweithient. (Gwneuthurwyr pebyll oeddynt wrth eu crefft.) 4A siaradai yn y synagog bob Saboth, a cheisiai berswadio Iddewon a Groegiaid. 5A phan ddaeth Silas a Thimotheus i lawr o Facedonia yr oedd Paul yn ymglymedig wrth y gair, yn dwys dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Crist. 6Ac a hwy’n gwrthsefyll a chablu, fe ysgydwodd ei ddillad a dywedyd wrthynt, “Ar eich pen chwi y byddo’ch gwaed chwi; glân ydwyf fi; o hyn allan af at y Cenhedloedd.” 7A symudodd oddiyno ac aeth i dŷ un, a’i enw Titus Iwstus, a addolai Dduw; yr oedd ei dŷ yn un â’r synagog. 8Ond credodd Crispus, yr archsynagogydd, ynghyd â’i holl deulu, yn yr Arglwydd, a llawer o’r Corinthiaid wrth glywed a gredai ac a fedyddid. 9A dywedodd yr Arglwydd liw nos trwy weledigaeth wrth Baul, “Paid ag ofni, eithr dal i lefaru ac na thaw; 10canys yr wyf fi gyda thi,#Esa. 43:5. ac nid ymesyd neb arnat ti i’th ddrygu, canys pobl lawer sydd i mi yn y ddinas hon.” 11Ac fe ymgartrefodd flwyddyn a chwe mis, gan ddysgu yn eu plith air Duw.
12A phan oedd Galio yn rhaglaw Achaia, cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul, a’i ddwyn ger bron y frawdle, 13gan ddywedyd, “Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn groes i’r Gyfraith.” 14A phan oedd Paul ar agoryd ei enau, fe ddywedodd Galio wrth yr Iddewon, “Pe buasai ryw gamwedd neu drosedd ysgeler, Iddewon, rhesymol fuasai imi ymddwyn â chwi; 15ond os cwestiynau y sydd ynghylch ymadrodd ac enwau a’ch cyfraith chwi, edrychwch eich hunain. Ni chwenychaf fi fod yn farnwr am y pethau hyn.” 16Ac fe’u gyrrodd hwynt oddiwrth y frawdle. 17A chymerasant afael bawb yn Sosthenes, yr archsynagogydd, a’i guro o flaen y frawdle; ac ni faliai Galio ddim am y pethau hyn. 18Arhosodd Paul yno eto gryn ddyddiau, ac wedi canu’n iach i’r brodyr fe fordwyodd ymaith i Syria, a Phriscila ac Acwila gydag ef, wedi iddo eillio’i ben yng Nghenchreae am fod arno adduned. 19A chyraeddasant Effesus, ac fe’u gadawodd hwynt yno, ac aeth yntau i mewn i’r synagog ac annerch yr Iddewon. 20A phan ofynasant iddo aros dros amser hwy, ni chydsyniodd; 21eithr wedi canu’n iach a dywedyd, “Dychwelaf yn fy ôl atoch, os Duw a’i myn,” hwyliodd o Effesus. 22Ac wedi cyrraedd Cesarea, aeth i fyny a chyfarchodd yr eglwys; yna aeth i lawr i Antiochia, 23ac wedi treulio peth amser aeth ymaith, gan deithio trwy wlad Galatia a Phrygia o’r bron, a chadarnhau yr holl ddisgyblion.
24A daeth i Effesus ryw Iddew, a’i enw Apolos, Alecsandriad o enedigaeth, gŵr diwylliedig,#18:24 Neu, hyawdl galluog yn yr ysgrythurau. 25Yr oedd hwn wedi ei addysgu yn Ffordd yr Arglwydd, ac yn frwd ei ysbryd llefarai a dysgai yn fanwl y pethau am yr Iesu, gan wybod yn unig am fedydd Ioan. 26Dechreuodd hwn hefyd lefaru’n hy yn y synagog; a phan glywodd Priscila ac Acwila ef, cymerasant ef atynt ac esbonio iddo Ffordd Dduw yn fanylach. 27A chan y dymunai fynd drosodd i Achaia, anogodd y brodyr ef, a sgrifennu at y disgyblion i’w roesawu. Ac wedi iddo gyrraedd cynorthwyodd lawer trwy ras ar y rhai a gredasai. 28Canys â’i holl egni fe lwyr ddymchwelai’r Iddewon, gan brofi ar gyhoedd trwy’r ysgrythurau mai Iesu oedd y Crist.
Tällä hetkellä valittuna:
Actau'r Apostolion 18: CUG
Korostus
Jaa
Vertaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945