Actau'r Apostolion 13
13
1Yr oedd yn Antiochia yn yr eglwys a oedd yno broffwydi ac athrawon — Barnabas a Simeon, a elwid Niger, a Lwcius o Gyrene, a Manaen, brawdmaeth#13:1 Neu, gŵr llys. Herod y tetrarch, a Saul. 2Ac a hwy’n gwasanaethu’r Arglwydd ac yn ymprydio, fe ddywedodd yr Ysbryd Glân, “Neilltuwch yn awr i mi Farnabas a Saul i’r gwaith y gelwais hwynt iddo.” 3Yna wedi ymprydio a gweddïo a dodi eu dwylo arnynt, gollyngasant hwynt.
4Hwynt-hwy, felly, wedi eu hanfon allan gan yr Ysbryd Glân, aethant i lawr i Selewcia, ac oddiyno hwylio i Gyprus; 5ac wedi cyrraedd Salamis dechreuasant gyhoeddi gair Duw yn synagogau’r Iddewon. (Yr oedd ganddynt Ioan hefyd, yn gynorthwywr.) 6Ac wedi teithio trwy’r holl ynys hyd Baffus cawsant ryw ŵr o ddewin, gau broffwyd o Iddew, a’i enw Bariesu, 7yr hwn oedd gyda’r rhaglaw, Sergius Pawlus, gŵr deallgar. Galwodd hwn Farnabas a Saul ato, a mynnodd gael clywed gair Duw; 8ond eu gwrthsefyll a wnâi Elymas, y dewin (felly y cyfieithir ei enw), a cheisio gŵyrdroi’r rhaglaw oddiwrth y ffydd. 9Eithr Saul (neu Paul), wedi ei lenwi â’r Ysbryd Glân, a syllodd arno, 10a dywedyd, “Ti, sy’n llawn o bob twyll a phob dichell, mab diafol, gelyn popeth sy iawn, oni pheidi di â gŵyrdroi uniawn ffyrdd yr Arglwydd?#Hos. 14:9. 11Dyma law’r Arglwydd arnat ti yn awr, a thi fyddi ddall heb weled yr haul am dymor.” Ac yn y fan syrthiodd arno niwl a thywyllwch, a than ymdroi o’i gwmpas ceisiai rywrai i roi llaw iddo. 12Yna pan welodd y rhaglaw yr hyn a fu, fe gredodd, yn fawr ei syndod wrth y ddysgeidiaeth am yr Arglwydd.
13Wedi hwylio ymaith o Baffus daeth Paul a’i gymdeithion i Berga ym Mhamffylia; a gadawodd Ioan hwynt, a dychwelodd i Gaersalem. 14Ond teithiasant hwy o Berga a chyrraedd Antiochia Pisidia; a myned i’r synagog ar y dydd Saboth, ac eistedd. 15Ac wedi’r darllen o’r Gyfraith a’r Proffwydi, fe anfonodd yr archsynagogwyr atynt, gan ddywedyd, “Frodyr, od oes gennych air o anogaeth i’r bobl, dywedwch ef.” 16A chyfododd Paul, ac amneidio â’i law, a dywedyd, “Wŷr Israel a chwi sy’n ofni Duw, gwrandewch. 17Duw y bobl hyn Israel a etholodd ein tadau ni, a’r bobl a ddyrchafodd yn ystod eu trigias yng ngwlad yr Aifft, ac â braich ddyrchafedig y dug hwynt allan #Ecs. 6:6. 18ac wedi iddo ymddwyn â hwynt#13:18 Mewn rhai hen awdurdodau darllenir wedi iddo’u meithrin hwynt. ddeugain mlynedd yn y diffeithwch,#Deut. 1:31. 19fe ddinistriodd saith genedl yng ngwlad Canaan,#Deut. 7:1. a rhoddi eu tir hwynt yn etifeddiaeth#Ios. 14:1. iddynt; 20hyn mewn rhyw bedwar can mlynedd a hanner. Ac wedi hynny rhoddes farnwyr hyd Samwel broffwyd. 21Ac yna ceisiasant frenin, a rhoddes Duw iddynt Saul, fab Cis, gŵr o lwyth Beniamin, am ddeugain mlynedd; 22ac fe’i diswyddodd ef, a chyfodi Dafydd iddynt yn frenin, ac iddo ef y tystiolaethodd, gan ddywedyd, ‘Cefais Ddafydd,#Salm 89:20. fab Iesse, yn ŵr yn ôl fy nghalon,#1 Sam. 13:14. yr hwn a wna fy holl ewyllys.’ 23O had hwn y dug Duw yn ôl ei addewid waredwr i Israel, Iesu, 24ac Ioan wedi cyhoeddi eisoes o flaen ei ddyfod fedydd edifeirwch i holl bobl Israel. 25Ac wrth fod Ioan yn cyflawni ei yrfa, fe ddywedai, ‘Yr hyn y tybiwch fy mod i, nid ydwyf fi; eithr dyma fe’n dyfod ar fy ôl i, ac nid wyf deilwng i ddatod yr esgidiau am ei draed.’ 26Frodyr, meibion cenedl Abraham a’r rhai yn eich plith sy’n ofni Duw, i ni y danfonwyd gair yr iechydwriaeth hon. 27Canys trigolion Caersalem a’u llywodraethwyr, heb adnabod hwn ac ymadroddion y proffwydi, a ddarllenir bob Saboth, trwy ei farnu cyflawnasant hwynt, 28a heb gael un achos marwolaeth ceisiasant gan Bilat ei ladd; 29ac wedi iddynt gwblhau popeth a oedd yn ysgrifenedig amdano, fe’i disgynasant ef oddiar y pren a’i ddodi mewn bedd. 30A Duw a’i cyfododd ef o feirw; 31ac fe’i gwelwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddeuthai i fyny gydag ef o Galilea i Gaersalem, y rhai sydd yn awr yn dystion amdano i’r bobl. 32A ninnau, newydd da a draethwn i chwi am yr addewid a wnaethpwyd i’r tadau, ei llwyr gyflawni gan Dduw i’n plant trwy gyfodi Iesu, 33megis y mae’n ysgrifenedig yn yr ail Salm, Mab i mi ydwyt ti; myfi, heddiw y’th genhedlais.#Salm 2:7. 34Ac am ei gyfodi ganddo o feirw, heb ei fod mwyach i ddychwelyd i lygredigaeth, fel hyn y dywedodd: Rhoddaf i chwi ddilys dduwioldeb Dafydd.#Esa. 55:3. 35Oblegid eto mewn Salm arall y dywed, Ni roddi i’th Sant weled llygredigaeth.#Salm 16:10. 36Canys Dafydd, wedi iddo yn ei oes ei hun wasanaethu ewyllys Duw, a hunodd ac a ddodwyd gyda’i dadau#1 Bren. 2:10. ac a welodd lygredigaeth; 37eithr yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd lygredigaeth. 38Bydded hysbys, felly, i chwi, frodyr, mai trwy hwn y cyhoeddir i chwi faddeuant pechodau, 39ac oddiwrth yr holl bethau na allwyd eich rhyddhau oddiwrthynt trwy gyfraith Moesen y rhyddheir trwy hwn bawb a gredo. 40Gwyliwch, ynteu, na ddêl i’ch erbyn yr hyn a ddywedwyd yn y proffwydi:
41 Gwelwch, chwi ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a darfydded amdanoch;
canys gweithred yr wyf fi yn ei gwneuthur yn eich dyddiau chwi,
gweithred na chredwch ddim ynddi, er ei llwyr fynegi i chwi.” #
Hab. 1:5.
42Ac a hwynt yn myned allan, deisyfai’r bobl#13:42 Gr., deisyfent. arnynt lefaru’r pethau hyn wrthynt y Saboth nesaf. 43Ac wedi gollwng y gynulleidfa canlynodd llawer o’r Iddewon a’r proselytiaid crefyddol Baul a Barnabas, a llefarant hwythau wrthynt, a’u hannog i lynu wrth ras Duw. 44A’r Saboth dilynol ymgynullodd yr holl ddinas bron i glywed gair Duw. 45A phan welodd yr Iddewon y torfeydd fe’u llannwyd o genfigen, a dechreuasant wrthddwedyd yr hyn a leferid gan Baul, ai ddifrïo. 46Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy, a dywedyd, “Rhaid oedd llefaru gair Duw yn gyntaf i chwi; bellach, gan eich bod yn ei wrthod ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, dyma ni’n troi at y Cenhedloedd. 47Canys hyn yw gorchymyn yr Arglwydd i ni:
Gosodais di yn oleuni i’r Cenhedloedd
i fod ohonot yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaear.” #
Esa. 49:6.
48A phan glywsant, bu lawen gan y cenhedloedd, a gogoneddent air Duw, a chredasant — gynifer ag a oedd yn gymwys i fywyd tragwyddol; 49a thaenid gair yr Arglwydd trwy’r holl wlad. 50Ond cyffroes yr Iddewon y gwragedd crefyddol bonheddig a gwŷr blaenaf y ddinas, a chodasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, a’u bwrw allan o’u gororau hwynt. 51Hwythau, ysgydwasant y llwch oddiar eu traed yn eu herbyn, a deuthant i Iconium. 52A llenwid y disgyblion â llawenydd ac â’r Ysbryd Glân.
Tällä hetkellä valittuna:
Actau'r Apostolion 13: CUG
Korostus
Jaa
Vertaa
Kopioi
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
© Urdd y Graddedigion, Prifysgol Cymru 1945
© Guild of Graduates, University of Wales 1945