Actau'r Apostolion 10

10
1A rhyw ŵr yng Nghesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fintai a elwid mintai’r Eidal, 2gŵr defosiynol, a oedd ynghyd â’i holl deulu yn ofni Duw, un a wnâi elusenau lawer i’r bobl ac a weddïai ar Dduw’n wastadol, 3gwelodd mewn gweledigaeth yn eglur tua’r nawfed awr o’r dydd angel Duw yn dyfod i mewn ato ac yn dywedyd wrtho, “Cornelius.” 4Yntau a syllodd arno, a chan frawychu a ddywedodd, “Beth sydd, Arglwydd?” A dywedodd wrtho, “Esgynnodd dy weddïau a’th elusenau yn offrwm coffa ger bron Duw; 5ac yn awr anfon wŷr i Ioppa a gyr am Simon, un a gyfenwir Pedr; 6y mae hwn yn lletya gyda rhyw Simon, barcer, sydd â’i dŷ ar lan y môr.” 7Ac wedi i’r angel a lefarai wrtho ymadael, galwodd ddau o’r gweision tŷ a milwr defosiynol, un o’i weision agos, 8ac wedi adrodd y cwbl iddynt anfonodd hwynt i Ioppa. 9A thrannoeth, a’r rhain ar eu taith ac yn dynesu at y ddinas, fe esgynnodd Pedr i ben y tŷ i weddïo tua’r chweched awr. 10Ac fe aeth yn newynog, a dymunai gael bwyd; ac wrth eu bod yn paratoi daeth arno lewyg, 11ac y mae’n gweled y nef yn agored a rhyw lestr yn disgyn megis llenlliain fawr, a ollyngid wrth bedair congl tua’r ddaear; 12ac ynddo yr oedd holl bedwarcarnolion ac ymlusgiaid y ddaear ac adar y nef. 13A daeth llef ato, “Cyfod, Pedr, lladd a bwyta.” 14A dywedodd Pedr, “Na, na, Arglwydd; canys ni fwyteais erioed ddim cyffredin ac aflan;” 15Ac meddai’r llef drachefn eilwaith wrtho, “Yr hyn a wnaed yn lân gan Dduw, na foed gyffredin gennyt ti.” 16A hyn a fu deirgwaith, ac yna cymerwyd y llestr i fyny i’r nef. 17Ac fel yr oedd Pedr mewn penbleth ynddo’i hun beth a allai’r weledigaeth a welsai fod, dyma’r gwŷr a anfonwyd gan Gornelius, wedi iddynt ofyn am dŷ Simon, yn dyfod a sefyll yn y cyntedd, 18ac wedi galw gofynasant a oedd Simon a gyfenwid Pedr yn lletya yno. 19A thra oedd Pedr yn synfyfyrio ar y weledigaeth dywedodd yr Ysbryd, “Dyma ddau ŵr yn dy geisio; 20da di, cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt heb amau dim, oherwydd myfi a’u hanfonodd hwynt.” 21Ac wedi i Bedr ddisgyn at y gwŷr fe ddywedodd, “Dyma fi, yr hwn a geisiwch; beth yw’r achos am eich dyfod?” 22Dywedasant hwythau, “Cornelius, canwriad, gŵr cyfiawn, sy’n ofni Duw ac sydd â gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd oddiuchod gan angel santaidd i ddanfon amdanat i’w dŷ ac i glywed pethau gennyt.” 23Felly gwahoddodd hwynt i mewn a’u lletya. A thrannoeth cyfododd ac aeth ymaith gyda hwynt, ac aeth rhai o’r brodyr oedd yn Ioppa gydag ef. 24Ac ail trannoeth aeth i mewn i Gesarea. A Chornelius oedd yn eu disgwyl, wedi galw ynghyd ei geraint a’i gyfeillion agos. 25Ac wedi i Bedr ddyfod i mewn, fe gyfarfu Cornelius ag ef, a syrthio wrth ei draed, a’i addoli. 26Ond cyfododd Pedr ef, gan ddywedyd, “Cyfod; dyn wyf finnau hefyd.” 27Ac aeth i mewn dan ymddiddan ag ef, a chael llawer wedi ymgynnull, 28ac meddai wrthynt, “Gwyddoch chwi mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymgyfeillach neu ymweled ag estron; eto dangosodd Duw i mi na alwn neb dyn yn gyffredin neu aflan. 29Am hynny y deuthum yn ddinâg, pan yrrwyd amdanaf. Gofynnaf, felly, paham y gyrasoch amdanaf.” 30Ac ebe Cornelius, “Pedwar diwrnod i’r awr hon yr oeddwn ar weddi’r nawfed awr yn fy nhŷ, a dyna ŵr yn sefyll ger fy mron mewn gwisg ddisglair, 31ac medd ef, ‘Cornelius, clywyd dy weddi di a galwyd dy elusenau i gof gan Dduw; 32anfon, gan hynny, i Ioppa, a galw am Simon, a gyfenwir Pedr; y mae hwnnw’n lletya yn nhŷ Simon, barcer, ar lan y môr.’ 33Felly ar unwaith yr anfonais atat, a thithau, gwelaist yn dda ddyfod. Yn awr, ynteu, yr ŷm i gyd yma ger bron Duw, i glywed popeth a orchmynnwyd i ti gan yr Arglwydd.” 34Ac agorodd Pedr ei enau, a dywedodd, “Deallaf yn wir nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb,#Deut. 10:17. 35eithr ym mhob cenedl y neb a’i hofno ef ac a weithredo gyfiawnder, derbyniol yw ganddo. 36Ei air a anfonodd i feibion Israel,#Salm 147:18–19. gan gyhoeddi efengyl tangnefedd#Esa. 52:7. trwy Iesu Grist; Arglwydd pawb yw ef. 37Gwyddoch chwi’r hanes a fu drwy holl Iwdea, — i ddechrau, yng Ngalilea wedi’r bedydd a gyhoeddodd Ioan, — am Iesu o Nasareth, 38y modd yr eneiniodd Duw ef â’r Ysbryd#Esa. 61:1. Glân ac â nerth, yr hwn a aeth o gwmpas gan wneuthur daioni ac iacháu pawb a oedd dan ormes y diafol, am fod Duw gydag ef. 39A ninnau, tystion ydym o’r holl bethau a wnaeth yng ngwlad yr Iddewon a Chaersalem; a’i ladd a wnaethant, gan ei grogi ar bren.#Deut. 21:22. 40Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, a pheri gallu ei weled, 41nid gan yr holl bobl ond gan dystion a ragetholasid gan Dduw, nyni, y rhai a fu’n cydfwyta ac yn cydyfed ag ef wedi iddo atgyfodi o feirw. 42Ac fe orchmynnodd i ni gyhoeddi i’r bobl a dwys dystiolaethu mai hwn a benodwyd gan Dduw yn farnwr byw a meirw. 43I hwn y tystia’r holl broffwydi, gael o bawb a gredo ynddo faddeuant pechodau trwy ei enw.” 44A Phedr eto’n llefaru’r pethau hyn, disgynnodd yr Ysbryd Glân ar bawb a glywai’r gair. 45A synnodd y credinwyr enwaededig, a ddeuthai gyda Phedr, am fod tywallt dawn yr Ysbryd Glân hyd yn oed ar y cenhedloedd; 46canys clywent hwynt yn llefaru â thafodau ac yn mawrygu Duw. Yna atebodd Pedr, 47“A all neb warafun y dŵr i fedyddio’r rhai hyn, a gafodd yr Ysbryd Glân fel ninnau?” 48A gorchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw Iesu Grist. Yna gofynasant iddo aros rai dyddiau.

Tällä hetkellä valittuna:

Actau'r Apostolion 10: CUG

Korostus

Jaa

Vertaa

Kopioi

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään