Raamattusovellus-logo
Hakukuvake

Eshaiah 39

39
XXXIX.
1Yn yr amser hwnnw anfonodd Merodoch Baladan, mab Baladan, Brenhin Babilon, lythyrau a chenhadau ac anrheg at Hezecïah, canys efe a glywsai iddo fod yn glaf, a’i fyned yn iach. 2A llawenychodd 2Hezecïah o’u 1herwydd hwynt, a dangosodd iddynt dŷ ei drysorau, yr arian, yr aur, a’r llysieuau, a’r olew gwerthfawr, a holl dŷ ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ a’r nas dangosodd Hezecïah iddynt, (ië) yn ei dŷ, ac yn ei holl lywodraeth.
3A daeth Eshaiah y prophwyd at y Brenhin Hezecïah a dywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant attat? A dywedodd Hezecïah, O wlad bell y daethant attaf fi, (sef o) Babilon. 4Ac yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Hezecïah, Yr hyn oll ag (sydd) yn fy nhŷ i a welsant; nid oes dim a’r nas dangosais iddynt yn fy nhrysorau. 5A dywedodd Eshaiah wrth Hezecïah, Gwrando air Iehofah y lluoedd; 6Wele ’r dyddiau yn dyfod pan ddygir yr hyn oll ag (sydd) yn dy dŷ di, a’r hyn a gynhilodd dy dadau di hyd y dydd hwn, i Babilon; ni adewir dim, medd Iehofah: 7Ac o’th feibion di, y rhai a ddaw o honot, y rhai a genhedli, hwy a gymmerant, fel y byddont yn eunuchiaid yn llys Brenhin Babilon. 8A dywedodd Hezecïah wrth Eshaiah, Da (yw) gair Iehofah yr hwn a leferaist. 2Dywedodd 1hefyd, Canys bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i.

Tällä hetkellä valittuna:

Eshaiah 39: CTB

Korostus

Kopioi

Vertaa

Jaa

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään