Raamattusovellus-logo
Hakukuvake

Eshaiah 20

20
XX.
1Yn y flwyddyn y daeth Tharthan i Ashdod, pan ddanfonodd Sargon Brenhin Assyria ef, ac yr ymladdodd yn erbyn Ashdod ac yr ynnillodd hi; 2yr amser hwnnw y llefarodd Iehofah trwy law Eshaiah mab Amots, gan ddywedyd,
Dos, a dattod y sachlïain oddi am dy lwynau,
A’th esgidiau a ddiosgi oddi am dy draed.
3Ac efe a wnaeth felly, gan rodio ’n noeth ac heb esgidiau; a dyweddodd Iehofah,
Megis y rhodiodd Fy ngwas Eshaiah yn noeth ac heb esgidiau,
Am dair blynedd, yn arwydd ac yn argoel
Yn erbyn yr Aipht ac yn erbyn Cwsh,
4Felly yr arwain brenhin Assyria
Gaethion yr Aipht, a chaeth-glud Cwsh,
Y llangciau a’r henafgwŷr, yn noethion ac heb esgidiau,
Ac yn din-noeth, yn warth i’r Aipht:
5A brawycha (pobl Ashdod), a chywilyddiant o achos Cwsh, eu gobaith hwynt,
Ac o achos yr Aipht, eu prydferthwch.
6Ac fe ddywed preswyliwr y wlad hon yn y dydd hwnnw,
Wele, fel hyn (y mae) ein gobaith ni,
Yr hwn y ffoisom atto am gymmorth
I’n gwared ni rhag brenhin Assyria!
A pha fodd y diangwn ninnau?

Tällä hetkellä valittuna:

Eshaiah 20: CTB

Korostus

Kopioi

Vertaa

Jaa

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään