Raamattusovellus-logo
Hakukuvake

Eshaiah 18

18
XVIII.
1 # 18:1 Prophwydoliaeth llwyr-aneglur. Nis gwyddys at ba beth neu amser y cyfeirir. Ho! tir y symbalau adenog,
Yr hwn sydd tu hwnt i afonydd Cwsh,
2Yr hwn a hebrwng ar y môr genhadau,
Ac mewn llestri brwyn ar wyneb y dyfroedd.
# 18:2 hwyrach mai yr Aipht yw’r gwrthddrych. Ewch, genhadau cyflym at genedl estynedig a llyfnedig,
At bobl ofnadwy er pan y maent, ac etto (felly),
Cenedl o linyn (ar) linyn, a sathredig,
Yr hon y dosbartha yr afonydd ei thir.
3Holl drigolion y byd a phreswylwŷr y ddaear,
Pan gyfoder llumman (ar) y mynyddoedd, edrychwch!
A phan udganer yr udgorn, clywch!
4Canys fel hyn y dywedodd Iehofah wrthyf,
Byddaf lonydd, a Mi a ystyriaf yn Fy anneddle,
Megis gwres eglur ar ol gwlaw,
Megis cwmmwl gwlith yn nydd y cynhauaf.
5 # 18:5 geiriau ’r prophwyd. Canys o flaen cynhauaf, pan berffeithier y blaguryn,
Ac yn winronyn chwyddawl yr elo’r blodeuyn,
Efe a dyr y brig â chrymmanau,
A’r canghennau Efe a ddwg ymaith, Efe a’u tyr.
6Gadewir hwynt ynghŷd i aderyn gwancus y mynyddoedd,
Ac i fwystfilod y ddaear;
Ac hafoda arnynt yr aderyn gwancus,
A holl fwystfilod y ddaear arnynt a auafa.
7Yn yr amser hwnnw y dygir rhodd i Iehofah y lluoedd
(Gan) bobl estynedig a llyfnedig,
A chan bobl ofnadwy er pan y maent, ac etto (felly),
Cenedl o linyn (ar) linyn, a sathredig,
Yr hon y dosbartha yr afonydd ei thir,
I le enw Iehofah y lluoedd, mynydd Tsïon.

Tällä hetkellä valittuna:

Eshaiah 18: CTB

Korostus

Kopioi

Vertaa

Jaa

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään