Raamattusovellus-logo
Hakukuvake

Eshaiah 16

16
XVI.
1 # 16:1 cyfyngder Moab pan ddaw ’r Assyriad yn ei herbyn. Danfonaf fab llywodraethwr y tir
O Selah yr anialwch i fynydd merch Tsïon;
2A bydd, fel aderyn gwibiog『 2wedi ei fwrw allan』『1o’r nyth,』
Felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon.
3(Tsïon)dwg gyngor, gwna farn,
Gwna fel nos dy gysgod, ynghanol hanner dydd,
Cuddia ’r rhai gwasgaredig, y crwydriad na ddatguddia.
4Triged gyda thi wasgaredigion Moab;
Bydd di loches iddynt rhag wyneb y dinystrydd,
# 16:4 Iwdah yn awr yn llwyddiannus. Canys diweddwyd y gorthrymmydd, peidiodd yr anrheithiwr,
A darfu dy fathrwŷr o’r tir.
5A sefydlir mewn trugaredd orseddfaingc,
Ac fe eistedd arni mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd,
Un yn barnu, ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder.
6Clywsom am falchder Moab, balch iawn (yw),
Am ei draha, a’i falchder a’i ddigllonedd: nid da ei gelwyddau.
7Am hynny yr uda Moab; am Moab
Pob un a uda;
Am bobl Cirhares y griddfennwch.
8Canys cywilyddiwyd maesydd Heshbon,
Llesgâodd gwinwŷdden Sibmah;
Arglwyddi ’r cenhedloedd, gorchfygodd ei pher-amglymmau hi hwynt,
# 16:8 mor enwog yr oedd ei gwin fel y trosglwyddwyd y winwydden hon i wledydd pell. Hyd Iazer y cyrhaeddasant, crwydrasant (ar hŷd) yr anialwch;
Ei changhennau a ymestynasant, aethant dros y môr.
9Am hynny y galaraf â galar Iazer dros winwŷdden Sibmah;
Dyfrhâf di â’m dagrau, Heshbon ac Elealah;
Canys ar dy ffrwythydd hâf, ac ar dy gynhauaf gwin, yr anrheithiwr a ruthrodd.
10Dygpwyd ymaith lawenydd a gorfoledd o’r maes ffrwythlawn,
Ac yn y gwinllanoedd ni chanant, ni floeddiant;
Gwin yn y gwrŷfoedd ni sathr y sathrydd,
Y floedd a beidiodd.
11Am hynny fy ymysgaroedd am Moab fel telyn a leisiant,
A’m perfedd am Cirhares.
12A bydd, pan weler
Flino o Moab ar yr uchelfan,
Y daw efe i’w gyssegr
I weddio, ond ni thyccia iddo.
13Dyma’r gair a lefarodd Iehofah am Moab cyn hyn; 14ond yn awr y llefarodd Iehofah gan ddywedyd,
O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog,
Dibrisir gogoniant Moab yn ei holl dyrfa fawr,
A’r gweddill (fydd) ychydig, bach, dirym.

Tällä hetkellä valittuna:

Eshaiah 16: CTB

Korostus

Kopioi

Vertaa

Jaa

None

Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään