Eshaiah 13
13
XIII.
1 yr ymadrodd ynghylch babilon yr hwn a welodd eshaiah mab amots.
2 # 13:2 gorchymmyn Duw i alw ynghŷd y llu yn erbyn Babilon. Ar fynydd uchel dyrchefwch lumman,
Dyrchefwch lef attynt, amneidiwch â llaw,
Fel yr elont i fewn pyrth pendefigion.
3Myfi a orchymynais i Fy nghyssegredig (filwŷr);
A gelwais Fy ngedyrn i’m digter,
Y rhai a ymhyfrydant yn Fy mawredd.
4 # 13:4 y prophwyd megis yn eu clywed ac yn eu gweled ar eu taith. Swn tyrfa yn y mynyddoedd megis pobl aml,
Swn twrf teyrnasoedd, cenhedloedd ymgynnulledig,
Iehofah y lluoedd (sy) ’n cyfrif y llu i ryfel.
5Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd,
Iehofah ac arfau Ei lidiowgrwydd, i ddifa ’r holl dir.
6Udwch! canys agos diwrnod Iehofah,
Megis anrhaith oddiwrth yr Hollalluog y daw.
7 # 13:7 canlyniadau’r ymweliad hwn ym mysg y Babiloniaid. Am hynny yr holl ddwylaw a laesa,
A phob calon dyn a dawdd, a hwy a ddychrynir.
8Gwewyr a doluriau a’u deil hwynt,
Megis gwraig yn esgor yr ymofidiant;
Pawb wrth ei gymhar a ryfeddant;
Gwynebau fflamllydd yw eu gwynebau hwynt.
9Wele, dydd Iehofah yn dyfod, yn greulon,
Ië, digofaint, a llosgiad llid,
I osod y wlad yn ddiffaethwch,
A’i phechaduriaid a ddifa Efe allan o honi.
10Ië, sêr y Nefoedd, a’u sêr-gynnullion,
Ni ddanfonant allan eu llewyrch;
Tywyllwyd yr haul yn ei godiad,
A’r lleuad ni oleua ei llewyrch.
11 # 13:11 y prophwyd yn adrodd y geiriau a ddatguddiwyd iddo. A Mi a ymwelaf â’r byd (am) ei ddrygioni,
Ac â’r annuwiolion (am) eu hanwiredd;
Ac attaliaf falchder y rhai rhyfygus,
Ac uchder y rhai ofnadwy a ostyngaf.
12Gwnaf ddyn yn werthfawroccach nag aur pur,
Ië, gwr nag aur coeth Ophir.
13Am hynny y Nefoedd a ysgydwaf,
Ac fe gryn y ddaear o’i lle
# 13:13 y proph. yn llefaru yn ei enw ei hun. Yn nigofaint Iehofah y lluoedd,
Ac yn nydd llosgiad Ei lid Ef.
14A’r gweddill a fydd fel ewig wedi ei tharfu,
Ac fel defaid heb neb a’u coleddo;
Pawb at eu pobl eu hun a wynebant,
A phawb i’w gwlad eu hun a ffoant.
15Pob un a ddelir a drywenir,
A’r holl rai ymgyssylltiedig a syrthiant trwy ’r cleddyf.
16A’u babanod a ddryllir o flaen eu llygaid,
Yspeilir eu tai, a’u gwragedd a dreisir.
17 # 13:17 Dinystr Babilon am byth. Wele Fi yn cyfodi yn eu herbyn hwy y Mediaid,
Y rhai ar arian ni roddant fri,
A’r aur, nid ymhyfrydant ynddo.
18A’(u) bwäau a 2ddrylliant 『1y gwŷr ieuaingc,』
Ac wrth ffrwyth bru ni thosturiant,
Wrth blant ni thrugarhâ eu llygaid hwynt.
19A bydd Babilon, prydferthwch y teyrnasoedd
Gogoniant godidowgrwydd y Caldeaid,
Megis dinystr Duw ar Sodom a Gomorrah.
20Ni chyfanneddir hi yn dragywydd,
Ac ni phreswylir hi yn oes oesoedd,
Ac 2yno ni 1phabella ’r Arabiad,
A’r bugeiliaid ni chorlannant yno.
21Ond fe orwedd yno anifeiliaid gwylltion yr anialwch,
A llenwir eu tai o fwystfilod udawl,
Ac fe drig yno gywion yr estrys,
A’r ellyllon a lammant yno.
22A chyd-ettyb y bleiddiaid yn eu palasau,
A’r dreigiau yn nhemlau moethineb;
Ac agos i ddyfod (yw) ei hamser,
A’i dyddiau nid estynir.
Tällä hetkellä valittuna:
Eshaiah 13: CTB
Korostus
Kopioi
Vertaa
Jaa
Haluatko, että korostuksesi tallennetaan kaikille laitteillesi? Rekisteröidy tai kirjaudu sisään
Cyfieithiad Briscoe 1894. Cynhyrchwyd y casgliad digidol hwn gan Gymdeithas y Beibl yn 2020-21.