1
Rhufeiniaid 15:13
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
CUG
Duw’r gobaith a’ch llanwo chwi â phob llawenydd a heddwch wrth gredu ohonoch, fel yr ymhelaethoch yn y gobaith trwy nerth yr Ysbryd Glân.
Vertaa
Tutki Rhufeiniaid 15:13
2
Rhufeiniaid 15:4
Oblegid pa bethau bynnag a ysgrifennwyd gynt, fe’u hysgrifennwyd er ein haddysgu, fel trwy amynedd a thrwy ddiddanwch yr ysgrythurau y caffom y gobaith.
Tutki Rhufeiniaid 15:4
3
Rhufeiniaid 15:5-6
A rhodded Duw’r amynedd a’r diddanwch i chwi fod yn unfryd ymhlith eich gilydd yn ôl Crist Iesu, fel yn gytûn ag un genau y gogoneddoch Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist.
Tutki Rhufeiniaid 15:5-6
4
Rhufeiniaid 15:7
Am hynny derbyniwch eich gilydd megis y derbyniodd Crist ninnau i ogoniant Duw.
Tutki Rhufeiniaid 15:7
5
Rhufeiniaid 15:2
Boddhaed pob un ohonom ei gymydog er daioni, i’w adeiladaeth.
Tutki Rhufeiniaid 15:2