1
Rhufeiniaid 14:17-18
Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos)
CUG
Canys nid bwyta ac yfed yw teyrnas Dduw, ond cyfiawnder a heddwch a llawenydd yn yr Ysbryd Glân. Oblegid y neb sy gaethwas yn hyn i Grist sydd wrth fodd Duw a chymeradwy gan ddynion.
Vertaa
Tutki Rhufeiniaid 14:17-18
2
Rhufeiniaid 14:8
Canys os byw, i’r Arglwydd yr ydym yn byw, ac os marw, i’r Arglwydd yr ydym yn marw.
Tutki Rhufeiniaid 14:8
3
Rhufeiniaid 14:19
Dilyn felly yr ydym y pethau sydd er heddwch a’r pethau sydd er adeiladaeth ein gilydd.
Tutki Rhufeiniaid 14:19
4
Rhufeiniaid 14:13
Gan hynny, na farnwn ein gilydd mwyach; yn hytrach bernwch fel hyn, na roddoch dramgwydd i frawd, neu rwystr.
Tutki Rhufeiniaid 14:13
5
Rhufeiniaid 14:11-12
Canys ysgrifennwyd: Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, i mi y plyg pob glin, ac i Dduw y dyry pob tafod fawl. Felly, ynteu, dyry pob un ohonom gyfrif amdano’i hun i Dduw.
Tutki Rhufeiniaid 14:11-12
6
Rhufeiniaid 14:1
Y gwan ei ffydd derbyniwch, nid i roi barn ar opiniynau.
Tutki Rhufeiniaid 14:1
7
Rhufeiniaid 14:4
Pwy wyt ti i farnu gwas un arall? I’w arglwydd ei hun y saif neu y syrth; a pherir iddo sefyll, canys fe all yr Arglwydd beri iddo.
Tutki Rhufeiniaid 14:4