A dywedodd yr Ysbryd wrth Phylip, “Dos ac ymwasg â’r cerbyd yna.” A rhedodd Phylip ato, a chlywodd ef yn darllen Esaias y proffwyd, a dywedodd, “A wyt ti’n deall yr hyn a ddarlleni?” Dywedodd yntau, “Pa fodd, tybed, y gallaf, oni’m cyfarwydda rhywun?” Ac fe ddymunodd ar Phylip ddyfod i fyny ac eistedd gydag ef.