A meibion y dïeithr y rhai a ymlynant wrth IEHOFAH,
I’w wasanaethu Ef, a charu enw IEHOFAH,
I fod iddo Ef yn weision;
Pob un a gadwo’r sabboth rhag ei halogi,
A’r rhai sy ’n ymaflyd yn Fy nghyfammod,
Dygaf hwynt at fynydd Fy sancteiddrwydd,
A llawenychaf hwynt yn nhŷ Fy ngweddi,
Eu poeth offrymmau a’u haberthau (fyddant) yn foddhâol ar Fy allor;
Canys Fy nhŷ i, tŷ gweddi y gelwir ef i’r holl bobloedd.