1
Eshaiah 51:12
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
CTB
Myfi, Myfi (yw) ’r hwn a’ch diddana chwi: Pwy (wyt) ti fel yr ofnit ddynionach a drengant, A mab dyn (yr hwn) a 2 wneir (fel) 1 glaswelltyn
Vertaa
Tutki Eshaiah 51:12
2
Eshaiah 51:16
A gosodais Fy ngeiriau yn dy enau, Ac ynghysgod Fy llaw y’th orchuddiais, I estyn y nefoedd ac i seilio ’r ddaear, Ac i ddywedyd wrth Tsïon, Fy mhobl tydi (ydwyt).
Tutki Eshaiah 51:16
3
Eshaiah 51:7
Gwrandêwch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, Y bobl (ag y mae) Fy nghyfraith yn eu calon, Nac ofnwch waradwydd dynionach, A rhag eu difenwad nac arswydwch.
Tutki Eshaiah 51:7
4
Eshaiah 51:3
Canys fe gysura IEHOFAH Tsïon, Cysura ei holl anghyfanneddleoedd hi, Ac Efe a wna ei hanialwch hi fel Eden, A’i diffaethwch fel gardd IEHOFAH: Gorfoledd a llawenydd a geir ynddi, Rhoddiad diolch, a llais cân.
Tutki Eshaiah 51:3
5
Eshaiah 51:11
Yr un modd rhyddedigion IEHOFAH a ddychwelant, Ac a ddeuant i Tsïon â llawen-gân, A llawenydd tragywyddol ar eu pennau; Gorfoledd a llawenydd a gânt hwy, Ac ymaith y ffŷ gofid a griddfan.
Tutki Eshaiah 51:11