Pwy a fesurodd y 2 dyfroedd yn 『 1 ngledr ei』 law,
A’r nefoedd â’i rychwant a fesurodd,
Ac a gynnwysodd mewn llestraid lwch y ddaear,
Ac a bwysodd â phwyslath y mynyddoedd,
A’r bryniau mewn cloriannau?
Pwy a gyfarwyddodd yspryd IEHOFAH,
Ac yn wr o’i gynghor a’i haddysgodd ef?
 phwy yr ymgynghorodd Efe, ac yntau a’i hyfforddodd Ef,
Ac a’i dysgodd Ef yn llwybr barn,
Ac a ddysgodd iddo wybodaeth,
Ac a 3 ddangosodd iddo 1 ffordd 2 dealltwriaeth?