Eshaiah 40:12-14
Eshaiah 40:12-14 CTB
Pwy a fesurodd y 2dyfroedd yn 『1ngledr ei』 law, A’r nefoedd â’i rychwant a fesurodd, Ac a gynnwysodd mewn llestraid lwch y ddaear, Ac a bwysodd â phwyslath y mynyddoedd, A’r bryniau mewn cloriannau? Pwy a gyfarwyddodd yspryd Iehofah, Ac yn wr o’i gynghor a’i haddysgodd ef? Â phwy yr ymgynghorodd Efe, ac yntau a’i hyfforddodd Ef, Ac a’i dysgodd Ef yn llwybr barn, Ac a ddysgodd iddo wybodaeth, Ac a 3ddangosodd iddo 1ffordd 2dealltwriaeth?


