Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Y Salmau 85

85
I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm.
1O Arglwydd, buost drugarog wrth dy dir;
adferaist lwyddiant i Jacob.
2Maddeuaist gamwedd dy bobl,
a dileu eu holl bechod.
Sela
3Tynnaist dy holl ddigofaint yn ôl,
a throi oddi wrth dy lid mawr.
4Adfer ni eto, O Dduw ein hiachawdwriaeth,
a rho heibio dy ddicter tuag atom.
5A fyddi'n digio wrthym am byth,
ac yn dal dig atom am genedlaethau?
6Oni fyddi'n ein hadfywio eto,
er mwyn i'th bobl lawenhau ynot?
7Dangos i ni dy ffyddlondeb, O ARGLWYDD,
a rho dy waredigaeth inni.
8Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW,
oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwch
i'w bobl ac i'w ffyddloniaid,
rhag iddynt droi drachefn at ffolineb.
9Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy'n ei ofni,
fel bod gogoniant yn aros yn ein tir.
10Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod,
a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.
11Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear,
a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.
12Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni,
a'n tir yn rhoi ei gnwd.
13Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen,
a heddwch yn dilyn yn ôl ei droed.#85:13 Tebygol. Hebraeg, ac yn gosod ei gamau i'r ffordd.

Actualmente seleccionado:

Y Salmau 85: BCND

Destacar

Copiar

Comparar

Compartir

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión