Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Y Salmau 82

82
Salm. I Asaff.
1Y mae Duw yn ei le yn y cyngor dwyfol;
yng nghanol y duwiau y mae'n barnu.
2“Am ba hyd y barnwch yn anghyfiawn,
ac y dangoswch ffafr at y drygionus?
Sela
3“Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad,
gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd.
4Gwaredwch y gwan a'r anghenus,
achubwch hwy o law'r drygionus.
5“Nid ydynt yn gwybod nac yn deall,
ond y maent yn cerdded mewn tywyllwch,
a holl sylfeini'r ddaear yn ysgwyd.
6Fe ddywedais i, ‘Duwiau ydych,
a meibion i'r Goruchaf bob un ohonoch.’
7Eto, byddwch farw fel meidrolion,
a syrthio fel unrhyw dywysog.”
8Cyfod, O Dduw, i farnu'r ddaear,
oherwydd eiddot ti yw'r holl genhedloedd.

Actualmente seleccionado:

Y Salmau 82: BCND

Destacar

Copiar

Comparar

Compartir

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión