Logo de YouVersion
Icono de búsqueda

Lyfr y Psalmau 12

12
1O achub, Arglwydd, achub fi,
Un duwiol ni adawyd;
O blith plant dynion, am eu bai,
Y ffyddlon rai a ddygwyd.
2Oferedd ffals a gwagedd swrth
A draethant wrth eu gilydd;
O wefus lefn a chalon gau
Y deillia ’u geiriau beunydd.
3Torred i lawr yr Arglwydd Ion
Wefusau ffeilsion gweniaith,
A’r tafod ffol fo ’n traethu gau
Chwydd‐eiriau balchaidd araith.
4Y rhai ddywedant â gwar syth,
“Ein tafod byth sydd eiddom;
Ag ef gorchfygwn bawb yn rhwydd,
A phwy sydd arglwydd arnom?”—
5“Am lwyr ormesu ’r gwael a’r gwan,
A ’speilio rhan y rheidus,
Am yr ochenaid drist o fron
Y tlodion a’r anghenus,
“Codaf yn awr, yr amser yw,
Rhof iechyd i’w calonnau,
A’u traed caethiwus,” meddai Naf,
“A dynnaf o’u cadwynau.”
6Pur iawn yw geiriau ’r Arglwydd doeth,
Fel arian coeth, ’rwy ’n gwybod,
A burwyd seithwaith yn y tân
Nes d’od yn lân heb sorod.
7Cedwi hwynt, Arglwydd, yn dy law,
Rhag ofni braw gelynion,
Rhag y genhedlaeth hon a’i brad,
A rhag eu bwriad creulon:
8A hyn er bod yr anwir gau
O gylch ein llwybrau ’n wastad
Yn rhodio ’n falch, a dynion gwael,
Di‐werth, yn cael dyrchafiad.

Actualmente seleccionado:

Lyfr y Psalmau 12: SC1850

Destacar

Copiar

Comparar

Compartir

None

¿Quieres tener guardados todos tus destacados en todos tus dispositivos? Regístrate o inicia sesión