YouVersion Logo
Search Icon

Joel 2

2
Rhybudd am Ddydd yr ARGLWYDD
1Canwch utgorn yn Seion,
bloeddiwch ar fy mynydd sanctaidd.
Cryned holl drigolion y wlad
am fod dydd yr ARGLWYDD yn dyfod;
y mae yn agos—
2dydd o dywyllwch ac o gaddug,
dydd o gymylau ac o ddüwch.
Fel cysgod yn ymdaenu dros y mynyddoedd,
wele luoedd mawr a chryf;
ni fu eu bath erioed,
ac ni fydd ar eu hôl ychwaith
am genedlaethau dirifedi.
3Ysa tân o'u blaen
a llysg fflam ar eu hôl.
Y mae'r wlad o'u blaen fel gardd Eden,
ond ar eu hôl yn anialwch diffaith,
ac ni ddianc dim rhagddo.
4Y maent yn ymddangos fel ceffylau,
ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
5Fel torf o gerbydau
neidiant ar bennau'r mynyddoedd;
fel sŵn fflamau tân yn ysu sofl,
fel byddin gref yn barod i ryfel.
6Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt,
a gwelwa pob wyneb.
7Rhuthrant fel milwyr,
dringant y mur fel rhyfelwyr;
cerdda pob un yn ei flaen
heb wyro#2:7 Felly Fersiynau. Hebraeg, heb gymryd gwystl. o'i reng.
8Ni wthiant ar draws ei gilydd,
dilyn pob un ei lwybr ei hun;
er y saethau, ymosodant
ac ni ellir eu hatal#2:8 Hebraeg yn ansicr..
9Rhuthrant yn erbyn y ddinas,
rhedant dros ei muriau,
dringant i fyny i'r tai,
ânt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron.
10Ysgwyd y ddaear o'u blaen
a chryna'r nefoedd.
Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu
a'r sêr yn atal eu goleuni.
11Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin;
y mae ei lu yn fawr iawn,
a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf.
Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD,
ac ofnadwy, a phwy a'i deil?
Galwad i Ddychwelyd at Dduw
12“Yn awr,” medd yr ARGLWYDD,
“dychwelwch ataf â'ch holl galon,
ag ympryd, wylofain a galar.
13Rhwygwch eich calon, nid eich dillad,
a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.”
Graslon a thrugarog yw ef,
araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb,
ac yn edifar ganddo wneud niwed.
14Pwy a ŵyr na thry a thosturio,
a gadael bendith ar ei ôl—
bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
15Canwch utgorn yn Seion,
cyhoeddwch ympryd,
galwch gymanfa,
16cynullwch y bobl.
Neilltuwch y gynulleidfa,
cynullwch yr henuriaid,
casglwch y plant,
hyd yn oed y babanod.
Doed y priodfab o'i ystafell
a'r briodferch o'i siambr.
17Rhwng y porth a'r allor
wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD,
a dweud, “Arbed dy bobl, O ARGLWYDD.
Paid â gwneud dy etifeddiaeth yn warth
ac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd.
Pam y dywedir ymysg y bobloedd,
‘Ple mae eu Duw?’ ”
Duw yn Ateb Gweddi'r Bobl
18Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir,
a thrugarhau wrth ei bobl.
19Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl,
“Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olew
nes eich digoni;
ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.
20Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych,
a'i yrru i dir sych a diffaith,
â'i reng flaen at fôr y dwyrain
a'i reng ôl at fôr y gorllewin;
bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi,
am iddo ymorchestu.”
21Paid ag ofni, ddaear;
bydd lawen a gorfoledda,
oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.
22Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion,
oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas;
bydd y coed yn dwyn ffrwyth,
a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.
23Blant Seion, byddwch lawen,
gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw;
oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol;
fe dywallt y glawogydd ichwi,
y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.
24Bydd y llawr dyrnu yn llawn o ŷd
a'r cafnau yn orlawn o win ac olew.
25“Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedd
a ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr,
y locust difaol a'r cyw locust,
fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.”
26“Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni,
a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw,
a wnaeth ryfeddod â chwi.
Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
27Cewch wybod fy mod i yng nghanol Israel,
ac mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw, ac nid neb arall.
Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.”
Dydd yr ARGLWYDD
28 # 2:28 Hebraeg, 3:1. “Ar ôl hyn
tywalltaf fy ysbryd ar bawb;
bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo,
bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion,
a'ch gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau.
29Hyd yn oed ar y gweision a'r morynion
fe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.”
30“Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear,
gwaed a thân a cholofnau mwg.
31Troir yr haul yn dywyllwch
a'r lleuad yn waed
cyn i ddydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD ddod.
32A bydd pob un sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub,
oherwydd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem bydd rhai dihangol,
fel y dywedodd yr ARGLWYDD,
ac ymysg y gwaredigion rai a elwir gan yr ARGLWYDD.”

Currently Selected:

Joel 2: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy