YouVersion Logo
Search Icon

Y Pregethwr 12

12
1Cofia dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn i'r dyddiau blin ddod, ac i'r blynyddoedd nesáu pan fyddi'n dweud, “Ni chaf bleser ynddynt.” 2Cofia amdano cyn tywyllu'r haul a'r goleuni, y lloer a'r sêr, a chyn i'r cymylau ddychwelyd ar ôl y glaw. 3Dyma'r dydd pan fydd ceidwaid y tŷ yn crynu, a dynion cryf yn gwargrymu; pan fydd y merched sy'n malu yn peidio â gweithio am eu bod yn ychydig, a phan fydd golwg y rhai sy'n edrych trwy'r ffenestri wedi pylu; 4pan fydd y drysau i'r stryd wedi cau, a sŵn y felin yn distewi; pan fydd rhywun yn cael ei ddychryn gan gân aderyn, am fod yr holl adar a ganai wedi distewi; 5pan fydd pobl yn ofni llecyn uchel a pheryglon ar y ffordd; pan fydd y pren almon yn gwynnu, a cheiliog rhedyn yn ymlusgo'n feichus, a'i chwant heb ei gyffroi; pan fydd rhywun ar fynd i'w gartref bythol, a'r galarwyr yn crynhoi yn y stryd. 6Cofia amdano cyn torri'r llinyn arian a darnio'r llestr aur, cyn malurio'r piser wrth y ffynnon a thorri'r olwyn wrth y pydew, 7cyn i'r llwch fynd yn ôl i'r ddaear lle bu ar y cychwyn, a chyn i'r ysbryd ddychwelyd at y Duw a'i rhoes. 8“Gwagedd llwyr,” meddai'r Pregethwr, “gwagedd yw'r cyfan.”
Crynodeb
9Yn ogystal â'i fod ef ei hun yn ddoeth, yr oedd y Pregethwr yn dysgu deall i'r bobl, yn pwyso a chwilio, ac yn gosod mewn trefn lawer o ddiarhebion. 10Ceisiodd y Pregethwr gael geiriau dymunol ac ysgrifennu geiriau cywir mewn trefn.
11Y mae geiriau'r doethion fel symbylau, a'r casgliad o'u geiriau fel hoelion wedi eu gosod yn eu lle; y maent wedi eu rhoi gan un bugail. 12Cymer rybudd, fy mab, rhag ychwanegu atynt. Y mae cyfansoddi llyfrau yn waith diddiwedd, ac y mae astudio dyfal yn flinder i'r corff.
13Wedi clywed y cyfan, dyma swm y mater: ofna Dduw a chadw ei orchmynion, oherwydd dyma ddyletswydd pob un. 14Yn wir, y mae Duw yn barnu pob gweithred, hyd yn oed yr un guddiedig, boed dda neu ddrwg.

Currently Selected:

Y Pregethwr 12: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy