YouVersion Logo
Search Icon

1 Corinthiaid 2

2
Pregethu Crist Croeshoeliedig
1A minnau, pan ddeuthum atoch, gyfeillion, ni ddeuthum fel un yn rhagori mewn huodledd neu ddoethineb, wrth gyhoeddi i chwi ddirgelwch#2:1 Yn ôl darlleniad arall, dystiolaeth. Duw. 2Oherwydd dewisais beidio â gwybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, ac yntau wedi ei groeshoelio. 3Mewn gwendid ac ofn a chryndod mawr y bûm i yn eich plith; 4a'm hymadrodd i a'm pregeth, nid geiriau deniadol#2:4 Yn ôl darlleniad arall, nid perswâd. doethineb oeddent, ond amlygiad sicr o'r Ysbryd a'i nerth, 5er mwyn i'ch ffydd fod yn seiliedig, nid ar ddoethineb ddynol, ond ar allu Duw.
6Eto yr ydym ni yn llefaru doethineb ymhlith y rhai aeddfed, ond nid doethineb yr oes bresennol, na'r eiddo llywodraethwyr yr oes bresennol, sydd ar ddarfod amdanynt. 7Ond yr ydym ni'n llefaru doethineb Duw a'i dirgelwch, doethineb guddiedig, a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i'n dwyn i'n gogoniant. 8Nid adnabu neb o lywodraethwyr yr oes bresennol mo'r ddoethineb hon; oherwydd pe buasent wedi ei hadnabod, ni fuasent wedi croeshoelio Arglwydd y gogoniant. 9Ond fel y mae'n ysgrifenedig:
“Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust,
ac na ddaeth i feddwl neb,
y cwbl a ddarparodd Duw ar gyfer y rhai sy'n ei garu.”
10Eithr datguddiodd Duw hwy i ni trwy'r Ysbryd. Oblegid y mae'r Ysbryd yn plymio pob peth, hyd yn oed ddyfnderoedd Duw. 11Oherwydd pwy sy'n deall y natur ddynol, ond yr ysbryd sydd ym mhob un? Yr un modd nid oes neb yn gwybod natur Duw, ond Ysbryd Duw. 12Ond nyni, nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr Ysbryd sydd oddi wrth Dduw, er mwyn inni wybod y pethau a roddodd Duw o'i ras i ni. 13Yr ydym yn mynegi'r rhain mewn geiriau a ddysgwyd i ni, nid gan ddoethineb ddynol, ond gan yr Ysbryd, gan esbonio pethau ysbrydol i'r rhai sydd yn meddu'r Ysbryd.#2:13 Neu, gan roddi iaith ysbrydol i bethau ysbrydol. Neu, gan gymharu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol. 14Nid yw'r rhai anianol yn derbyn pethau Ysbryd Duw, oherwydd ffolineb ydynt iddynt hwy, ac ni allant eu hamgyffred, gan mai mewn modd ysbrydol y maent yn cael eu barnu. 15Y mae'r rhai ysbrydol yn barnu pob peth, ond ni chânt hwy eu barnu gan neb. 16Yng ngeiriau'r Ysgrythur:
“Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd,
i'w gyfarwyddo?”
Ond y mae meddwl Crist gennym ni.

Currently Selected:

1 Corinthiaid 2: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy