YouVersion Logo
Search Icon

Mathew 1

1
1 Achau Crist o Abraham i Joseff. 18 Ei genhedlu ef o’r Ysbryd Glân, a’i eni o Fair forwyn, wedi ei dyweddïo hi â Joseff. 19 Yr angel yn boddloni cam‐dybus feddyliau Joseff, ac yn dehongli enwau Crist.
1Llyfr #Luc 3:23cenhedliad Iesu Grist, fab Dafydd, fab Abraham. 2#Gen 21:2, 3Abraham a genhedlodd Isaac; ac #Gen 25:26Isaac a genhedlodd Jacob; a #Gen 29:35Jacob a genhedlodd Jwdas a’i frodyr; 3A #Gen 38:27Jwdas a genhedlodd Phares a Sara o Thamar; a #Ruth 4:18; 1 Cron 2:5, 9 &cPhares a genhedlodd Esrom; ac Esrom a genhedlodd Aram; 4Ac Aram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naason; a Naason a genhedlodd Salmon; 5A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab; a Boos a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Jesse; 6A #1 Sam 16:1; 17:12Jesse a genhedlodd Dafydd frenin; a #2 Sam 12:24Dafydd frenin a genhedlodd Solomon o’r hon a fuasai wraig Ureias; 7A #1 Cron 3:10 &cSolomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abeia; ac Abeia a genhedlodd Asa; 8Ac Asa a genhedlodd Josaffat; a Josaffat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Oseias; 9Ac Oseias a genhedlodd Joatham; a Joatham a genhedlodd Achas; ac Achas a genhedlodd Eseceias; 10Ac #2 Bren 20:21; 1 Cron 3:13Eseceias a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Joseias; 11A Joseias a genhedlodd #1 Cron 3:16, 17Jechoneias a’i frodyr, ynghylch amser y symudiad i Fabilon; 12Ac wedi’r symudiad i Fabilon, Jechoneias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Sorobabel; 13A Sorobabel a genhedlodd Abïud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Asor; 14Ac Asor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Elïud; 15Ac Elïud a genhedlodd Eleasar; ac Eleasar a genhedlodd Mathan; a Mathan a genhedlodd Jacob; 16A Jacob a genhedlodd Joseff, gŵr Mair, o’r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Crist. 17Felly yr holl genedlaethau o Abraham hyd Dafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o Dafydd hyd y symudiad i Fabilon, pedair cenhedlaeth ar ddeg; ac o’r symudiad i Fabilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddeg.
18A #Luc 1:27genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: Wedi dyweddïo Mair ei fam ef â Joseff, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog #Luc 1:35o’r Ysbryd Glân. 19A Joseff ei gŵr hi, gan ei fod yn gyfiawn, ac heb chwennych #Deut 24:1ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymaith yn ddirgel. 20Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseff, mab Dafydd, nac ofna gymryd Mair dy wraig: oblegid yr hyn a #1:20 Gr. gaed.genhedlwyd ynddi sydd o’r Ysbryd Glân. 21#Luc 1:31A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef IESU: oblegid #Act 4:12efe a wared ei bobl oddi wrth eu pechodau. 22(A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, 23#Esa 7:14Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab; a #1:23 Neu, gelwir ei enw ef.hwy a alwant ei enw ef Emanuel; yr hyn o’i gyfieithu yw, Duw gyda ni.) 24A Joseff, pan ddeffroes o gwsg, a wnaeth megis y gorchmynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymerodd ei wraig: 25Ac nid adnabu efe hi hyd onid esgorodd hi ar #Exod 13:2ei mab cyntaf‐anedig. A galwodd ei enw ef IESU.

Currently Selected:

Mathew 1: BWM1955C

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in