YouVersion Logo
Search Icon

Luc 1

1
Cyflwyniad
1Theoffilws, syr – Fel dych chi’n gwybod, mae yna lawer o bobl wedi mynd ati i gasglu’r hanesion am yr hyn sydd wedi digwydd yn ein plith ni. 2Cafodd yr hanesion yma eu rhannu â ni gan y rhai fu’n llygad-dystion i’r cwbl o’r dechrau cyntaf, ac sydd ers hynny wedi bod yn cyhoeddi neges Duw. 3Felly, gan fy mod innau wedi astudio’r pethau yma’n fanwl, penderfynais fynd ati i ysgrifennu’r cwbl yn drefnus i chi, syr. 4Byddwch yn gwybod yn sicr wedyn fod y pethau gafodd eu dysgu i chi yn wir.
Dweud ymlaen llaw am eni Ioan Fedyddiwr
5Pan oedd Herod yn frenin ar Jwdea, roedd dyn o’r enw Sachareias yn offeiriad. Roedd yn perthyn i deulu offeiriadol Abeia, ac roedd ei wraig Elisabeth hefyd yn un o ddisgynyddion Aaron, brawd Moses. 6Roedd y ddau ohonyn nhw yn bobl dda yng ngolwg Duw, ac yn gwneud yn union fel roedd e’n dweud. 7Ond doedd Elisabeth ddim yn gallu cael plant, ac roedd y ddau ohonyn nhw’n eithaf hen.
8Un tro, pan oedd y teulu offeiriadol oedd Sachareias yn perthyn iddo yn gwasanaethu yn y deml, roedd Sachareias yno gyda nhw yn gwneud ei waith fel offeiriad. 9A fe oedd yr un gafodd ei ddewis, drwy daflu coelbren, i losgi arogldarth wrth fynd i mewn i’r cysegr. (Taflu coelbren oedd y ffordd draddodiadol roedd yr offeiriaid yn ei defnyddio i wneud y dewis.) 10Pan oedd yn amser i’r arogldarth gael ei losgi, roedd yr holl bobl oedd wedi dod yno i addoli yn gweddïo y tu allan.
11Roedd Sachareias wrthi’n llosgi’r arogldarth, ac yn sydyn gwelodd un o angylion yr Arglwydd o’i flaen yn sefyll ar yr ochr dde i’r allor. 12Roedd Sachareias wedi dychryn am ei fywyd. 13Ond dyma’r angel yn dweud wrtho: “Paid bod ofn, Sachareias; mae Duw wedi clywed dy weddi. Mae Elisabeth dy wraig yn mynd i gael plentyn – dy fab di! Ioan ydy’r enw rwyt i’w roi iddo, 14a bydd yn dy wneud di’n hapus iawn. A bydd llawer iawn o bobl eraill yn llawen hefyd am ei fod wedi’i eni. 15Bydd e’n was pwysig iawn i’r Arglwydd Dduw. Fydd e ddim yn yfed gwin nac unrhyw ddiod feddwol, ond bydd wedi cael ei lenwi â’r Ysbryd Glân hyd yn oed cyn iddo gael ei eni. 16Bydd yn troi llawer iawn o bobl Israel yn ôl at yr Arglwydd eu Duw. 17Gyda’r un ysbryd a nerth a oedd gan y proffwyd Elias bydd yn mynd allan i gyhoeddi fod yr Arglwydd yn dod, ac yn paratoi’r bobl ar ei gyfer. Bydd yn gwella perthynas rhieni â’u plant,#cyfeiriad at Malachi 4:6 ac yn peri i’r rhai sydd wedi bod yn anufudd weld mai byw yn iawn sy’n gwneud synnwyr.”
18“Sut alla i gredu’r fath beth?” meddai Sachareias wrth yr angel, “Wedi’r cwbl, dw i’n hen ddyn ac mae ngwraig i mewn oed hefyd.”
19Dyma’r angel yn ateb, “Gabriel ydw i. Fi ydy’r angel sy’n sefyll o flaen Duw i’w wasanaethu. Fe sydd wedi fy anfon i siarad â ti a dweud y newyddion da yma wrthot ti. 20Gan dy fod ti wedi gwrthod credu beth dw i’n ddweud, byddi’n methu siarad nes bydd y plentyn wedi’i eni. Ond daw’r cwbl dw i’n ei ddweud yn wir yn amser Duw.”
21Tra oedd hyn i gyd yn digwydd, roedd y bobl yn disgwyl i Sachareias ddod allan o’r deml. Roedden nhw’n methu deall pam roedd e mor hir. 22Yna pan ddaeth allan, roedd yn methu siarad â nhw. A dyma nhw’n sylweddoli ei fod wedi gweld rhywbeth rhyfeddol yn y deml – roedd yn ceisio esbonio iddyn nhw drwy wneud arwyddion, ond yn methu siarad.
23Ar ôl i’r cyfnod pan oedd Sachareias yn gwasanaethu yn y deml ddod i ben, aeth adre. 24Yn fuan wedyn dyma’i wraig Elisabeth yn darganfod ei bod hi’n disgwyl babi, a dyma hi’n cadw o’r golwg am bum mis. 25“Yr Arglwydd Dduw sydd wedi gwneud hyn i mi!” meddai. “Mae wedi bod mor garedig, ac wedi symud y cywilydd roeddwn i’n ei deimlo am fod gen i ddim plant.”
Dweud ymlaen llaw am eni Iesu
26Pan oedd Elisabeth chwe mis yn feichiog, anfonodd Duw yr angel Gabriel i Nasareth, un o drefi Galilea, 27at ferch ifanc o’r enw Mair. Roedd Mair yn wyryf (heb erioed gael rhyw), ac wedi’i haddo’n wraig i ddyn o’r enw Joseff. Roedd e’n perthyn i deulu y Brenin Dafydd. 28Dyma’r angel yn mynd ati a’i chyfarch, “Mair, mae Duw wedi dangos ffafr atat ti! Mae’r Arglwydd gyda ti!”
29Ond gwnaeth yr angel i Mair deimlo’n ddryslyd iawn. Doedd hi ddim yn deall o gwbl beth roedd yn ei feddwl. 30Felly dyma’r angel yn dweud wrthi, “Paid bod ofn, Mair. Mae Duw wedi dewis dy fendithio di’n fawr. 31Rwyt ti’n mynd i fod yn feichiog, a byddi di’n cael mab. Iesu ydy’r enw rwyt i’w roi iddo. 32Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw’n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, 33a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!”
34Ond meddai Mair, “Sut mae’r fath beth yn bosib? Dw i erioed wedi cael rhyw gyda neb.”
35Dyma’r angel yn esbonio iddi, “Bydd yr Ysbryd Glân yn dod arnat ti, a nerth y Duw Goruchaf yn gofalu amdanat ti. Felly bydd y plentyn fydd yn cael ei eni yn berson sanctaidd – bydd yn cael ei alw yn Fab Duw. 36Meddylia! Mae hyd yn oed Elisabeth, sy’n perthyn i ti, yn mynd i gael babi er ei bod hi mor hen. Roedd pawb yn gwybod ei bod hi’n methu cael plant, ond mae hi chwe mis yn feichiog! 37Rwyt ti’n gweld, does dim byd sy’n amhosib i Dduw ei wneud.”
38A dyma Mair yn dweud, “Dw i eisiau gwasanaethu’r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi’i ddweud ddod yn wir.” Wedyn dyma’r angel yn ei gadael hi.
Mair yn ymweld ag Elisabeth
39Cyn gynted ag y gallai dyma Mair yn mynd i’r dref yng nghanol bryniau Jwda 40lle roedd Sachareias ac Elisabeth yn byw. Pan gyrhaeddodd y tŷ dyma hi’n cyfarch Elisabeth, 41a dyma fabi Elisabeth yn neidio yn ei chroth hi. Cafodd Elisabeth ei hun ei llenwi â’r Ysbryd Glân pan glywodd lais Mair, 42a gwaeddodd yn uchel: “Mair, rwyt ti wedi dy fendithio fwy nag unrhyw wraig arall, a bydd y babi rwyt ti’n ei gario wedi’i fendithio hefyd! 43Pam mae Duw wedi rhoi’r fath fraint i mi? – cael mam fy Arglwydd yn dod i ngweld i! 44Wir i ti, wrth i ti nghyfarch i, dyma’r babi sydd yn fy nghroth i yn neidio o lawenydd pan glywais dy lais di. 45Rwyt ti wedi dy fendithio’n fawr, am dy fod wedi credu y bydd yr Arglwydd yn gwneud beth mae wedi’i ddweud wrthot ti.”
Cân Mair
46A dyma Mair yn ymateb:
“O, dw i’n moli’r Arglwydd!
47Mae Duw, fy Achubwr, wedi fy ngwneud i mor hapus!
48Roedd yn gwybod bod ei forwyn yn ferch gyffredin iawn,
ond o hyn ymlaen bydd pobl o bob oes
yn dweud fy mod wedi fy mendithio,
49Mae Duw, yr Un Cryf, wedi gwneud pethau mawr i mi –
Mae ei enw mor sanctaidd!
50Mae bob amser yn trugarhau wrth y rhai sy’n ymostwng iddo.
51Mae wedi defnyddio’i rym i wneud pethau rhyfeddol! –
Mae wedi gyrru y rhai balch ar chwâl.
52Mae wedi cymryd eu hawdurdod oddi ar lywodraethwyr,
ac anrhydeddu’r bobl hynny sy’n ‘neb’.
53Mae wedi rhoi digonedd o fwyd da i’r newynog,
ac anfon y bobl gyfoethog i ffwrdd heb ddim!
54Mae wedi helpu ei was Israel,
a dangos trugaredd at ei bobl. 55Dyma addawodd ei wneud i’n cyndeidiau ni –
dangos trugaredd at Abraham a’i ddisgynyddion am byth.”
56Arhosodd Mair gydag Elisabeth am tua tri mis cyn mynd yn ôl adre.
Hanes geni Ioan Fedyddiwr
57Pan ddaeth yr amser i fabi Elisabeth gael ei eni, bachgen bach gafodd hi. 58Clywodd ei chymdogion a’i pherthnasau y newyddion, ac roedden nhw i gyd yn hapus hefyd fod yr Arglwydd wedi bod mor garedig wrthi hi.
59Wythnos ar ôl i’r babi gael ei eni roedd pawb wedi dod i seremoni enwaedu y bachgen, ac yn cymryd yn ganiataol mai Sachareias fyddai’n cael ei alw, yr un fath â’i dad. 60Ond dyma Elisabeth yn dweud yn glir, “Na! Ioan fydd ei enw.”
61“Beth?” medden nhw, “Does neb yn y teulu gyda’r enw yna.” 62Felly dyma nhw’n gwneud arwyddion i ofyn i Sachareias beth oedd e eisiau galw’i fab. 63Gofynnodd am lechen i ysgrifennu arni, ac er syndod i bawb, ysgrifennodd y geiriau, “Ioan ydy ei enw.” 64Yr eiliad honno cafodd ei allu i siarad yn ôl, a dechreuodd foli Duw. 65Roedd ei gymdogion i gyd wedi’u syfrdanu, ac roedd pawb drwy ardal bryniau Jwdea yn siarad am beth oedd wedi digwydd. 66Roedd pawb yn gofyn, “Beth fydd hanes y plentyn yma?” Roedd hi’n amlwg i bawb fod llaw Duw arno.
Cân Sachareias
67Dyma Sachareias, tad y plentyn, yn cael ei lenwi â’r Ysbryd Glân, ac yn proffwydo fel hyn:
68“Molwch yr Arglwydd – Duw Israel!
Mae wedi dod i ollwng ei bobl yn rhydd.
69Mae wedi anfon un cryf i’n hachub ni –
un yn perthyn i deulu ei was,
y Brenin Dafydd.
70Dyma’n union addawodd ymhell yn ôl, drwy ei broffwydi sanctaidd:
71Bydd yn ein hachub ni rhag ein gelynion
ac o afael pawb sy’n ein casáu ni.
72Mae wedi trugarhau, fel yr addawodd i’n cyndeidiau,
ac wedi cofio’r ymrwymiad cysegredig a wnaeth
73pan aeth ar ei lw i Abraham:
74i’n hachub ni o afael ein gelynion,
i ni allu ei wasanaethu heb ofni neb na dim,
75a byw yn bobl sanctaidd a chyfiawn
tra byddwn fyw.
76A thithau, fy mab bach, byddi di’n cael dy alw
yn broffwyd i’r Duw Goruchaf;
oherwydd byddi’n mynd o flaen yr Arglwydd
i baratoi’r ffordd ar ei gyfer.
77Byddi’n dangos i’w bobl sut mae cael eu hachub
drwy i’w pechodau gael eu maddau.
78Oherwydd mae Duw yn dirion ac yn drugarog,
ac mae ei oleuni ar fin gwawrio arnon ni o’r nefoedd.
79Bydd yn disgleirio ar y rhai sy’n byw yn y tywyllwch
gyda chysgod marwolaeth drostyn nhw,
ac yn ein harwain ar hyd llwybr heddwch.”
80Tyfodd y plentyn Ioan yn fachgen cryf yn ysbrydol. Yna aeth i fyw i’r anialwch nes iddo gael ei anfon i gyhoeddi ei neges i bobl Israel.

Currently Selected:

Luc 1: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy