YouVersion Logo
Search Icon

Marc 16

16
Yr Atgyfodiad
(Mathew 28:1-8; Luc 24:1-12; Ioan 20:1-10)
1Yn hwyr ar y nos Sadwrn, pan oedd y Saboth drosodd, aeth Mair Magdalen, Salome a Mair mam Iago i brynu perlysiau ar gyfer eneinio corff Iesu. 2Yna’n gynnar iawn ar y bore Sul, pan oedd hi yn gwawrio, dyma nhw’n mynd at y bedd.
3Roedden nhw wedi bod yn trafod ar eu ffordd yno pwy oedd yn mynd i rolio’r garreg oddi ar geg y bedd iddyn nhw. 4Ond pan gyrhaeddon nhw’r bedd dyma nhw’n gweld fod y garreg, oedd yn un drom iawn, eisoes wedi’i rholio i ffwrdd. 5Wrth gamu i mewn i’r bedd, dyma nhw’n dychryn, achos roedd dyn ifanc yn gwisgo mantell wen yn eistedd yno ar yr ochr dde.
6“Peidiwch dychryn,” meddai wrthyn nhw. “Dych chi’n edrych am Iesu o Nasareth gafodd ei groeshoelio. Mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dydy e ddim yma. Edrychwch, dyma lle cafodd ei gorff ei roi i orwedd. 7Ewch, a dweud wrth ei ddisgyblion a Pedr, ‘Mae Iesu’n mynd i Galilea o’ch blaen chi. Cewch ei weld yno, yn union fel roedd wedi dweud.’”
8Dyma’r gwragedd yn mynd allan ac yn rhedeg oddi wrth y bedd, yn crynu drwyddynt ac mewn dryswch. Roedd ganddyn nhw ofn dweud wrth unrhyw un am y peth.
Dydy Marc 16:9-20 ddim yn y llawysgrifau cynharaf
Iesu a Mair Magdalen
(Mathew 28:9-10; Ioan 20:11-18)
9Pan ddaeth Iesu yn ôl yn fyw yn gynnar ar y bore Sul, dangosodd ei hun gyntaf i Mair Magdalen, y wraig y bwriodd saith o gythreuliaid allan ohoni. 10Aeth hithau i ddweud wrth y rhai oedd wedi bod gydag e. Roedden nhw’n galaru ac yn crio. 11Pan ddwedodd hi fod Iesu’n fyw a’i bod hi wedi’i weld, doedden nhw ddim yn ei chredu.
Iesu a’r ddau ddisgybl
(Luc 24:13-35)
12Dangosodd ei hun wedyn, mewn ffurf wahanol, i ddau o’i ddilynwyr oedd ar eu ffordd o Jerwsalem i’r wlad. 13Dyma nhw hefyd yn brysio’n ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y lleill; ond doedden nhw ddim yn eu credu nhw chwaith.
Y Comisiwn Mawr
(Mathew 28:16-20; Luc 24:36-49; Ioan 20:19-23; Actau 1:6-8)
14Yn nes ymlaen dangosodd Iesu ei hun i’r un ar ddeg disgybl pan oedden nhw’n cael pryd o fwyd. Ar ôl dweud y drefn wrthyn nhw am fod mor ystyfnig yn gwrthod credu y rhai oedd wedi’i weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw, 15dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i gyhoeddi’r newyddion da i bawb drwy’r byd i gyd. 16Bydd pob un sy’n credu ac yn cael ei fedyddio yn cael ei achub, ond pob un sy’n gwrthod credu yn cael ei gondemnio. 17A bydd yr arwyddion gwyrthiol yma’n digwydd i’r rhai sy’n credu: Byddan nhw’n bwrw cythreuliaid allan o bobl yn fy enw i; ac yn siarad ieithoedd gwahanol. 18Byddan nhw’n gallu gafael mewn nadroedd; ac os byddan nhw’n yfed gwenwyn, fyddan nhw ddim yn dioddef o gwbl; byddan nhw’n gosod eu dwylo ar bobl sy’n glaf, a’u hiacháu nhw.”
Iesu’n mynd yn ôl i’r nefoedd
(Luc 24:50-53; Actau 1:9-11)
19Ar ôl i’r Arglwydd Iesu orffen siarad â nhw, cafodd ei gymryd i fyny i’r nefoedd i lywodraethu yno gyda#16:19 i lywodraethu yno gyda: Groeg, “i eistedd ar ochr dde”. Duw. 20O hynny ymlaen aeth y disgyblion allan i bregethu ym mhobman. Roedd yr Arglwydd yn gweithio gyda nhw, ac yn cadarnhau fod y neges yn wir drwy’r arwyddion gwyrthiol oedd yn digwydd yr un pryd.

Currently Selected:

Marc 16: bnet

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy