YouVersion Logo
Search Icon

Seffaneia 3

3
1Gwae y fudr a’r halogedig, y ddinas orthrymus! 2Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gerydd; nid ymddiriedodd yn yr Arglwydd, ni nesaodd at ei Duw. 3Ei thywysogion o’i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr, ni adawant asgwrn erbyn y bore. 4Ei phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷr anffyddlon: ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr, treisiasant y gyfraith. 5Yr Arglwydd cyfiawn sydd yn ei chanol; ni wna efe anwiredd: yn fore y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; ond yr anwir ni fedr gywilyddio. 6Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd; diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb ŵr, a heb drigiannol. 7Dywedais, Yn ddiau ti a’m hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd.
8Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr Arglwydd, hyd y dydd y cyfodwyf i’r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear. 9Oherwydd yna yr adferaf i’r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef ag un ysgwydd. 10O’r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwm. 11Y dydd hwnnw ni’th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i’m herbyn: canys yna y symudaf o’th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd. 12Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr Arglwydd y gobeithiant hwy. 13Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a’u tarfo.
14Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â’th holl galon. 15Tynnodd yr Arglwydd ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr Arglwydd brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach. 16Y dydd hwnnw y dywedir wrth Jerwsalem, Nac ofna; wrth Seion, Na laesed dy ddwylo. 17Yr Arglwydd dy Dduw yn dy ganol di sydd gadarn: efe a achub, efe a lawenycha o’th blegid gan lawenydd; efe a lonydda yn ei gariad, efe a ymddigrifa ynot dan ganu. 18Casglaf y rhai sydd brudd am y gymanfa, y rhai sydd ohonot, i’r rhai yr oedd ei gwaradwydd yn faich. 19Wele, mi a ddifethaf yr amser hwnnw bawb a’th flinant: ac a achubaf y gloff, a chasglaf y wasgaredig; ac a’u gosodaf yn glodfawr ac yn enwog yn holl dir eu gwarth. 20Yr amser hwnnw y dygaf chwi drachefn, yr amser y’ch casglaf: canys gwnaf chwi yn enwog ac yn glodfawr ymysg holl bobl y ddaear, pan ddychwelwyf eich caethiwed o flaen eich llygaid, medd yr Arglwydd.

Currently Selected:

Seffaneia 3: BWM

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in

YouVersion uses cookies to personalize your experience. By using our website, you accept our use of cookies as described in our Privacy Policy